Mae ychydig wythnosau cyntaf y tymor yn golygu ymgartrefu ac archwilio pa gyfleoedd sydd ar gael i chi. Beth bynnag yw eich diddordebau neu lefelau eich profiad, mae cynifer o ffyrdd o gymryd rhan a rhoi cynnig ar chwaraeon yn ystod yr Wythnos Groeso.
O dreialon i sesiynau rhagflas i ddigwyddiadau a gweithgareddau Bod yn ACTIF, drwy’r dudalen hon, gallwch archwilio beth sydd gan Chwaraeon Prifysgol Abertawe i’w chynnig.
Rydym wrthi'n paratoi i groesawu ein myfyrwyr newydd i Chwaraeon Prifysgol Abertawe. Mae ein tîm yn brysur yn trefnu popeth fydd ei angen arnoch ar gyfer Cyrraedd, Wythnos y Glas, treialon clybiau a sesiynau blasu. Daliwch ati i ymweld â'r dudalen hon dros yr wythnosau nesaf gan y byddwn yn ychwanegu'r holl wybodaeth y bydd ei hangen arnoch i gymryd rhan a Bod yn Rhan Ohoni.