Croeso i Chwaraeon Prifysgol Abertawe!

Croeso i Abertawe! P'un a ydych chi'n athletwr profiadol, neu eisiau cadw'n actif neu'n gobeithio cwrdd â phobl newydd, mae lle i chi yma gyda Chwaraeon Prifysgol Abertawe. Mae mwy nag un ffordd o gymryd rhan: gallwch ddod yn aelod o glwb chwaraeon a chynrychioli Abertawe, chwarae'n gymdeithasol, cystadlu yn erbyn ffrindiau ar y campws, rhoi cynnig ar weithgaredd newydd neu'n syml, cadw'n heini a chael hwyl. Beth bynnag yw eich rheswm, rydyn ni eisiau i chi ymuno â ni a 'Bod yn Rhan Ohoni!'

Archwiliwch eich holl opsiynau isod

Byddwch yn Ran Ohoni gyda Chwaraeon Prifysgol Abertawe

Ymuno â Chlwb Chwaraeon

Tîm Clwb Hoci Prifysgol Abertawe’n cystadlu ar y cae hoci ym Mharc Chwaraeon Bae Abertawe

Gallwch gynrychioli Prifysgol Abertawe yng nghystadlaethau BUCS a chystadlaethau eraill, hyfforddi'n rheolaidd a dod yn aelod o un o’n 50 a mwy o glybiau chwaraeon i fyfyrwyr.

Perffaith ar gyfer: athletwyr cystadleuol, y rhai sy'n hoffi chwaraeon, neu unrhyw un sydd eisiau parhau â’i gamp neu ei datblygu *mae llawer o glybiau'n cynnig cyfleoedd i ddechreuwyr pur.

Cymryd Rhan Mewn Chwaraeon Mewnfurol

Un o gynghreiriau pêl-droed mewnfurol Prifysgol Abertawe’n chwarae wrth wisgo crysau gwyrdd.

Gyda'n rhaglen o chwaraeon mewnfurol, gallwch fwynhau cynghreiriau cyfeillgar, cystadleuol a thwrnameintiau yn erbyn myfyrwyr eraill yn Abertawe. Dim teithio. Dim pwysau. Dim ond cystadlu llawn hwyl ar y campws gyda ffrindiau.

Perffaith ar gyfer:  gwneud ffrindiau a mwynhau cystadlu rheolaidd, ar y campws ar draws ystod o chwaraeon.

Bod yn ACTIF

Grŵp mawr o fyfyrwyr yn gwisgo siwtiau gwlyb porffor o’r rhaglen gweithgarwch corfforol Bod yn ACTIF yn y dŵr bas ar draeth Caswell

Rhowch gynnig ar sesiynau am ddim ar y campws, cymerwch ran mewn gweithgareddau rhad oddi ar y campws, a mwynhau ychydig o weithgarwch corfforol llawn hwyl heb ymrwymo i glwb neu gynghrair.

Perffaith ar gyfer: dechreuwyr, cyfranogwyr achlysurol ac unrhyw un sydd eisiau cwrdd â myfyrwyr eraill, wrth gadw'n heini.

Chwaraeon Perfformiad

Aelod o raglen nofio perfformiad Prifysgol Abertawe ar ochr y pwll yn gwisgo cap nofio gwyrdd a gwisg nofio amryliw.

Os ydych chi'n cystadlu ar y lefel uchaf, mae ysgoloriaethau, gwasanaethau cymorth a rhaglenni perfformiad ar gael i chi.

Perffaith ar gyfer: Myfyrwyr sy'n athletwyr sydd eisiau cydbwyso chwaraeon elît ag astudiaethau academaidd

Cartref Chwaraeon Prifysgol Abertawe

Yn gartref i gyfleusterau rhagorol gan gynnwys campfeydd, pwll 50 metr, neuaddau chwaraeon, cyrtiau a chyfleusterau athletau, Parc Chwaraeon Bae Abertawe yw cartref chwaraeon yn Abertawe.Dewch i archwilio yn ystod yr Wythnos Groeso a darganfod popeth sydd gan y cyfleuster i'w gynnig.

Mae mwy nag un ffordd o Fod yn Rhan Ohoni!