Canolfannau Cymraeg a rhwydweithiau o ddysgwyr Cymraeg sy’n oedolion: ymdrechion i ôl-droi newid iaith mewn cymunedau sy’n ddi-Gymraeg ar y cyfan

Comisiynwyd y prosiect drwy gyllid ymchwil gwerth £35,000 gan Lywodraeth Cymru yn 2010. Cymerodd traean o ddysgwyr Cymraeg sy’n oedolion ran mewn darpariaeth lefel uwch drwy holiaduron a grwpiau ffocws. Yn sail i’r ymchwil hon oedd ymgais i nodi a yw dysgu mewn Canolfan Gymraeg (a ddiffinnir fel canolfan lle mae dosbarthiadau i ddysgwyr y Gymraeg yn cael eu cyfuno â gweithgareddau i siaradwyr y Gymraeg yn y gymuned, yn ogystal â chyfleusterau amrywiol eraill) yn effeithio ar a yw rhwydweithiau cymdeithasol Cymraeg posib ar gael i oedolion drwy gymharu â dysgwyr a astudiodd mewn Canolfan Gymraeg a’r rhai hynny nad oeddent wedi cael y cyfle hwn.  Roedd pedwar prif gwestiwn ymchwil:

  • Pa gyfleoedd sydd ar gael i gynnal rhwydweithiau cymdeithasol yn Gymraeg?
  • A yw’r cyfleoedd hyn yn fwy neu’n gyfartal os yw dysgwyr yn astudio mewn Canolfan Gymraeg?
  • A oes strategaethau y gellid eu rhoi ar waith er mwyn ehangu rhwydweithiau cymdeithasol drwy gyfrwng y Gymraeg ar gyfer y siaradwyr Cymraeg newydd hyn?
  • A oes patrymau neu strategaethau’n bodoli mewn cymunedau ieithoedd eraill y gellid eu haddasu ar gyfer ymdrechion integreiddio oedolion sydd wedi dysgu’r Gymraeg?

Prif ganfyddiad yr ymchwil oedd bod dysgwyr Cymraeg sy’n oedolion mewn ardaloedd lle na siaredir Cymraeg lawer yn gallu cyrchu rhwydweithiau cymdeithasol Cymraeg ehangach wrth astudio mewn amgylchedd Canolfan Gymraeg. Prif argymhelliad oedd bod angen sefydlu mwy o Ganolfannau Cymraeg, yn enwedig yn yr ardaloedd yng Nghymru lle siaredir llai o Gymraeg.

Cyhoeddwyd a rhyddhawyd y canfyddiadau ymchwil a’r argymhellion mewn digwyddiad dan nawdd yr AC dros Ddwyrain Abertawe, Mike Hedges, yn y Senedd ar 10 Gorffennaf 2012. Dilynwyd hyn gan gyfarfod agored i drafod Canolfannau Cymraeg yng Nghanolfan Gymraeg Abertawe - Tŷ Tawe – lle bu llawer o’r siaradwyr a fu’n rhan o gynnal neu sefydlu Canolfannau Cymraeg yn bresennol, yn ogystal â’r rhai hynny sy’n cynllunio i sefydlu rhai newydd. Nododd yr AC dros Lanelli ar adeg y lansiad, Keith Davies (sydd hefyd yn gadeirydd grŵp iaith Cymraeg trawsbleidiol) yn ei blog bod “... arbenigwyr wedi tynnu sylw at effaith gadarnhaol Canolfannau Cymraeg  ar eu cymunedau lleol a sut mae’r berthynas rhwng yr iaith a’i chymuned yn mynd law yn llaw...".  Roedd model y Ganolfan Gymraeg wedi gosod gwreiddiau ac ym mis Rhagfyr 2014, cyhoeddwyd y byddai’r llywodraeth yn dyrannu £70,000 i sefydlu Canolfan Gymraeg yn Llanelli (Y Lle).

Ar 6 Awst 2014, cyhoeddodd  Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones gronfa fuddsoddi gwerth £1.5 miliwn a fyddai’n cael ei defnyddio i sefydlu Canolfannau Cymraeg, ac ar 4 Tachwedd 2014, cyhoeddodd gyllid pellach gwerth £2 miliwn, gan gysylltu hwn ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i hyrwyddo defnydd yr iaith Gymraeg yng Nghymru, sef 'Bwrw Ymlaen'. Mae’r Canolfannau Cymraeg hyn newydd eu cyllido wedi agor yng Nghaerfyrddin, Caerdydd, Wrecsam, Bangor a Phontardawe (mewn cydweithrediad ag Academi Hywel Teifi ym Mhrifysgol Abertawe). Daeth adroddiad a gomisiynwyd yn 2015 i werthuso effaith economaidd Canolfan Gymraeg hirsefydledig ym Merthyr Tudful at y casgliad ei bod hi wedi cyfrannu oddeutu £608,000 at yr economi leol, gan amcangyfrif bod cyfanswm yr effaith economaidd yn ne Cymru yn werth £1.3 miliwn.

Delweddau trwy garedigrwydd Chris Reynolds.

Steve Morris, amongst others, presenting Cannolfannau Cymraeg.