ASESU EFFAITH ADEILADU TRYCIAU I DACSIS BEIC MODUR

Ariennir y prosiect hwn gan yr ESRC/DFIF gwerth £135,000 a ddyrannwyd i Dr Krijn Peters (yr Adran Astudiaethau Gwleidyddol a Diwylliannol) i gynnal ymchwil o’r enw ‘Ar ddiwedd yr heol fwydo:   asesu effaith ar ieuenctid cefn gwlad yn Liberia o adeiladu trac ar gyfer tacsis beic modur'.

Mae rhai o bobl dlotaf y byd yn byw mewn pentrefi ynysig yn Affrica. Gyda diffyg mynediad at y farchnad, yn gyffredinol mae cynhyrchwyr gwledig yn ennill cyflog pitw am yr hyn maent yn ei gynhyrchu, gan achosi i ffermio ymgynhaliol  barhau. Er efallai y bydd ffermwyr yn fodlon cynhyrchu mwy i’r farchnad, mae isadeiledd ffyrdd gwell yn rhagofyniad ar gyfer datblygu amaethyddol, ond nid yw hyn ar ddod o gofio’r sympiau bach sy’n cael eu masnachu mewn gwirionedd.

Yn aml, caiff cyllidebau adeiladu/atgyweirio ffyrdd eu gwario ar ffyrdd aml-lôn palmantog sy’n cysylltu trefi rhanbarthol neu brif byrth ag adeiladu ffyrdd bwydo mewn ardaloedd mwy gwledig.  Nid yw’n glir pa mor bell mae’r blaenoriaethu hwn wedi bod yn llwyddiannus wrth ysgogi cynhyrchiant cnydau parod mewn ardaloedd mwy gwledig. Yn lle hynny, gellir dadlau y dylid mynd i’r afael â natur ynysig sylfaenol cynhyrchwyr ar raddfa fach drwy uwchraddio llwybrau cerdded i draciau sy’n hygyrch i ffurfiau mwy amlwg o drafnidiaeth. Ymddengys hyn yn arbennig o synhwyrol o gofio cyflwyniad diweddar, a lledaenu chwim, dacsis beic modur yn Affrica is-Sahara. Er gwaethaf bod yn gyfrifol am gludo’r rhan fwyaf o deithwyr a nwyddau yn ardaloedd gwledig Liberia a gwledydd Affricanaidd eraill, mae noddwyr a llywodraethau rhyngwladol yn amharod i fuddsoddi mewn adeiladu traciau, gan fod data am effaith yn brin o’i gymharu ag adeiladu ffyrdd confensiynol.

Portrait of Krijn Peters

Mae Dr Krijn Peters  wedi ennill Grant Ymchwil Lliniaru Tlodi gwerth £135,000 gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC)/yr Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol (DFID) i edrych ar effaith adeiladu traciau yn Liberia dan effaith rhyfel ac ebola.  Ynghyd â phartneriaid academaidd yn yr Iseldiroedd, a Sefydliadau Anllywodraethol Liberia a Sierra Leone, nod ei astudiaeth yw deall effaith adeiladu traciau/llwybrau y gellir teithio arnynt ar feic modur o ffermydd bach i bentrefi/ffyrdd/marchnadoedd er mwyn rhoi ffordd allan o dlodi i ffermwyr ar raddfeydd bach iawn drwy leihau’r costau o gludo nwyddau i farchnadoedd; asesu datblygiad economaidd-gymdeithasol a ddaw yn sgil mynediad gwell at gyfleusterau iechyd ac addysgol; a dogfennu lefel a natur cyfranogiad cymunedol yn y broses gwneud penderfyniadau ac adeiladu traciau sy’n addas i gerbydau dwy olwyn, a’r materion sy’n deillio ohono.

Shows a man on a motorcycle.