Stavros Apostopolous

Stavros Apostopolous

Gwlad:
Cymru
Cwrs:
MA Cyfathrebu, Arferion y Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus

Beth gwnaethoch chi ei fwynhau fwyaf am eich cwrs ym Mhrifysgol Abertawe?

Gwnes i fwynhau nifer o bethau am astudio fy nghwrs ym Mhrifysgol Abertawe. Gwnes i dreulio llawer o fy mhlentyndod a blynyddoedd fel oedolion yn byw mewn ardaloedd arfordirol ac roedd Abertawe'n cynnig cefndir arfordirol delfrydol ar gyfer profiad unigryw!

Roedd aelodau staff Prifysgol Abertawe bob amser yn barod i helpu ac yn gyfeillgar ac oherwydd hynny roedd fy mhrofiad fel myfyriwr yn bleserus ac yn hawdd mewn llawer o ffyrdd. Ces i ysgoloriaeth, a oedd yn wych, felly mae cyllid ar gael!

Gwnes i fwynhau amrywiaeth fy nghwrs a chael gwybodaeth a phrofiad mewn meysydd gwahanol yn y cyfryngau megis Cysylltiadau Cyhoeddus, Dylunio, Golygu Fideos a mwy!

Sut gwnaeth eich gradd helpu i'ch paratoi ar gyfer eich gyrfa?

Roedd yr MA mewn Cyfathrebu, Arferion y Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus yn berffaith wrth ehangu fy ngwybodaeth mewn meysydd gwahanol yn niwydiant y cyfryngau, yn ogystal â rhoi'r dewis yn y pen draw i bobl arbenigo os oedden nhw am wneud hynny.

Galla i ddweud fy mod i'n defnyddio sgiliau yn fy mywyd gwaith o ddydd i ddydd a fagwyd yn ystod fy astudiaethau ym Mhrifysgol Abertawe. Felly, rwy'n defnyddio gwybodaeth a sgiliau a oedd yn deillio'n uniongyrchol o fy ngradd.

Roedd rhannau o'r cwrs hefyd yn ddefnyddiol ar gyfer y broses o gael cyfweliad am swydd. Gall dysgu llawer am frandio helpu rhywun i frandio ei hun hefyd! Gwnes i hynny ac roedd yn wych wrth helpu i ddwyn perswâd ar gyflogwyr i fuddsoddi ynof fi.

Pa sgiliau y gwnaethoch eu dysgu yn ystod eich astudiaethau rydych chi'n eu defnyddio nawr yn eich gyrfa?

Ysgrifennu deunydd byr a hir megis datganiadau i'r wasg neu hysbysebion golygol ar gyfer cleientiaid.

Creu cynnwys ar gyfer cyfryngau digidol a phrint.

Golygu fideos.

Siarad yn gyhoeddus.

Cynrychioli fy nghyflogwr a brand.

A fyddech yn argymell y cwrs hwn i ddarpar fyfyrwyr? (Esboniwch eich rhesymau)

Byddwn i'n argymell y cwrs hwn yn fawr i ddarpar fyfyrwyr. Ces i drafferthion mawr wrth gael lle yn niwydiant y cyfryngau a Phrifysgol Abertawe oedd fy nghynnig olaf i ddilyn yr yrfa o fy newis. Gwnes i weithio'n galed ac ymdrechu ac achubais i ar y cyfleoedd a ddaeth i fy rhan. O ganlyniad, rwyf wedi cael fy nghyflogi ers graddio yn niwydiant cysylltiadau cyhoeddus.

Cwrddais i â rhai ffrindiau gwych yn ystod fy nghyfnod astudio ym Mhrifysgol Abertawe, yn ogystal â rhai unigolion anhygoel o’r diwydiant cysylltiadau cyhoeddus.

Pa gyngor byddech yn ei roi i fyfyrwyr sydd am ddilyn eich gyrfa?

Byddwn i'n cynghori myfyrwyr sydd am ddilyn gyrfa debyg i mi i fod yn barod i weithio'n galed ac i fod yn agored i gyfleoedd. Yn ystod fy astudiaethau, ces i fy nghyflogi, yn ogystal â chwblhau tri lleoliad gwaith, wrth astudio. Rhoddais i 100% ac rwy'n elwa'n fawr o hynny. Buddsoddwch ynoch chi eich hun a bydd eraill (cyflogwyr) yn buddsoddi ynoch chi.