Joshua Benn

Joshua Benn

Gwlad:
Guyana
Cwrs:
LLM Cyfraith Olew, Nwy ac Ynni Adnewyddadwy

Pam rwyt ti wedi dewis astudio ym Mhrifysgol Abertawe?

Mae'r holl gyrsiau ym Mhrifysgol Abertawe wedi'u llunio gan ystyried cyflogadwyedd. Yn fwy pwysig, dysgais i drwy fy ymchwil y byddai'r radd LLM mewn Cyfraith Olew, Nwy ac Ynni Adnewyddadwy yn cael ei haddysgu gan arbenigwyr yn hytrach na chan academyddion yn unig. Roeddwn i'n fodlon felly y byddwn i'n ennill gwybodaeth ymarferol am yr agweddau ar y sectorau olew, nwy ac ynni adnewyddadwy sy'n ymwneud â deddfwriaeth, polisi a masnach. Roedd gen i ddiddordeb penodol yn y modiwl Cymrodeddu Masnachol Rhyngwladol a phe byddwn i'n cwblhau'r modiwl hwn yn llwyddiannus, efallai byddai'n bosib i mi fod yn Aelod Cyswllt o Sefydliad Siartredig y Cymrodeddwyr.

Elli di ddweud wrthym am dy gwrs a'r hyn rwyt ti'n ei fwynhau fwyaf?

Gan ddyfynnu geiriau Cyfarwyddwr y rhaglen LLM, yr Athro Baris Soyer, nid yw'r LLM yn 'LLM Mickey Mouse. Mae'r LLM mewn Cyfraith Olew, Nwy ac Ynni Adnewyddadwy'n gadarn ac yn sicr o wella fy ngwybodaeth gyfreithiol. Rwy'n cael mynediad at ddarlithoedd a seminarau, sydd o gymorth mawr i ddeall y pynciau amrywiol. Mae'r holl ddarlithwyr yn annog rhyngweithio yn y ddwy sesiwn. Ar ben hynny, hyd yn oed os bydd rhai myfyrwyr yn rhy swil i siarad yn y dosbarth, mae'r darlithwyr yn rhoi ar wybod eu bod nhw ar gael ar bob adeg i ateb cwestiynau. A dweud y gwir, mae pob myfyriwr yn cael darlithydd yn fentor i wneud yn siŵr bod ei daith yn hawdd ei rheoli.

Byddwn i ar fai taswn i’n anghofio sôn am yr adnoddau helaeth sydd ar gael gan y darlithwyr i'n helpu ni gyda'n hastudiaethau. Yr hyn rwy'n ei fwynhau fwyaf yw'r adborth unigol mae'r darlithwyr yn ei roi ar fy asesiadau ac mae'r adborth hwn yn egluro'r hyn sydd angen i mi ei wneud wrth symud ymlaen er mwyn i mi wella.

Beth yw dy dri hoff beth am Abertawe?

Fy nhri hoff beth am Abertawe yw:

  1. Mynd am dro ar hyd traeth Singleton. Oherwydd ei hamddiffynfeydd arfordirol, mae'r traeth yn edrych yn debyg iawn i 'furiau môr' Guyana.
  2. Yr amrywiaeth o weithgareddau sydd ar gael, o fwytai gyda phrydau blasus i siopau fforddiadwy – mae yna rywbeth i'w wneud bob amser! Des i o Guyana, sy'n drofannol, felly er mwyn i mi addasu i'r tywydd yn Abertawe, un o'r pethau roedd angen i mi ei wneud oedd aildrefnu fy wardrob. Roedd hyn yn haws oherwydd y siopau fforddiadwy.
  3. Y cyfle i ryngweithio ag unigolion o gefndiroedd diwylliannol amrywiol.

Fyddet ti'n argymell Prifysgol Abertawe i fyfyrwyr rhyngwladol eraill?

Yn bendant! Gyda darlithwyr arbenigol a chyfleusterau addysgol o'r radd flaenaf, gan gynnwys llyfrgell sydd ar agor 24/7 ac sydd hefyd yn darparu mynediad ar-lein at amrywiaeth eang o adnoddau, Prifysgol Abertawe yw'r lle i fod!