Genevieve Hilliard

Genevieve Hilliard

Gwlad:
Unol Daleithiau America
Cwrs:
PhD Gwyddorau Biolegol

Pam y dewisaist astudio ym Mhrifysgol Abertawe? 


Dewisais i Brifysgol Abertawe ar gyfer yr ymchwil ficrobioleg y mae Dr Rowena Jenkins yn ei chynnal yn yr Ysgol Feddygaeth. Fel rhan o'm PhD, rwy'n archwilio effaith mêl manuka wedi'i ymgorffori mewn templed adfywio ar bathogenau clwyfau.Mae gan Dr Jenkins wybodaeth sylweddol sefydledig am sut mae mêl yn rhyngweithio â bacteria, a dewisais y Brifysgol am ei harbenigedd hi. Roeddwn i hefyd yn hoffi bod Abertawe yn un o'r dinasoedd gorau ar gyfer bywyd nos myfyrwyr, a bod y brifysgol reit ar bwys y traeth. Hefyd, gwnes i ymweld â Chymru ychydig flynyddoedd yn ôl ac rydw i wedi bod eisiau dychwelyd ers hynny.
 Allet ti ddweud wrthym am dy gwrs a beth wyt ti'n ei fwynhau fwyaf? 
Rydw i ar lwybr ymchwil, felly rydw i'n gweithio amser llawn mewn labordy. Yn fy marn i, mae'r athrawon a'r cyd-raddedigion yn hynod wybodus ac yn amhrisiadwy i lwyddiant fy mhrosiect. Rwy'n mwynhau dysgu am ficrobioleg, gwneud ffrindiau yn y labordy, a dod i adnabod Cymru'n gyffredinol drwy fy nghydweithwyr anhygoel.

Beth yw dy dri hoff beth am Abertawe?

  • Y Traeth
  • Pysgod a sglodion
  • Castell Ystumllwynarth

A fyddet ti'n argymell Prifysgol Abertawe i fyfyrwyr eraill?

Byddwn, yn bendant. Rydw i wedi cwrdd â chynifer o bobl anhygoel a chroesawgar ym Mhrifysgol Abertawe - ac yn Abertawe ar y cyfan. Mae'r Brifysgol, ac Abertawe, mewn lleoliad perffaith gan eu bod yn agos at lawer o leoedd diddorol fel Caerdydd, Bryste, Caerfaddon, Penrhyn Gŵyr, Dinbych-y-pysgod, Sir Benfro etc. Mae llawer o hanes diddorol a bywyd cymdeithasol ar gynnig yma.