Bryn Tawton
- Gwlad:
- Deyrnas Unedig
- Cwrs:
- MSc Peirianneg Sifil
Cwrs: MSc mewn Peirianneg Sifil
Helô, Bryn Tawton ydw i ac fe wnes i gwblhau fy MSc mewn Peirianneg Sifil ym Mhrifysgol Abertawe.
Sut gwnaeth eich gradd eich paratoi ar gyfer eich gyrfa?
I unrhyw un sy'n angerddol am bwnc penodol mewn Peirianneg Sifil, mae'r cwrs MSc yn gyfle gwych i ddilyn y diddordebau hynny ac yn ffordd wych o ymbaratoi ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol. Fe wnes ymchwilio i fodelu hydrolig o ran technegau Rheoli Llifogydd Naturiol, ac rydw i’n eu defnyddio yn rheolaidd fel Peiriannydd Draenio Cynaliadwy yn WSP. Mae bod yn y tîm Blue Green Infrastructure yn golygu bod ar flaen y gad o ran dylunio draenio integredig, ac rwy'n gobeithio y gallaf barhau i weithio ar brosiectau SuDS gyda'r nod o wneud ein hamgylchedd adeiledig yn lle gwell ar gyfer y dyfodol.
Eich Gyrfa
Ar ôl gorffen fy MSc, gweithiais mewn dylunio peirianneg sifil cyffredinol cyn symud i brosiectau mwy arbenigol. Roeddwn i'n gwybod mai draenio cynaliadwy oedd fy mhrif faes diddordeb, a phan gododd gyfle i ymuno â thîm Blue Green Infrastructure WSP, ni allwn ei wrthod. Rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i gael nifer o fentoriaid a wnaeth gefnogi ac annog fy uchelgeisiau, ym Mhrifysgol Abertawe ac yn y gwaith.
Ar hyn o bryd, rwy'n ymwneud â dylunio draenio ar lefel cynllunio ar gyfer ystod eang o gynlluniau, gan roi cyngor ar ymgorffori nodweddion draenio a gwneud modelu hydrolig ar gyfer dyluniadau manwl.