Alpha Evans

Alpha Evans

Gwlad:
Cymru
Cwrs:
PhD Cymraeg

Beth yw eich 3 hoff beth am Abertawe?

  • Y gorau o'r ddau fyd o ran lleoliad - traethau hyfryd, llwybrau arfordirol a pharciau amrywiol, ond hefyd canol dinas bywiog gyda bywyd nos gwych.
  • Amrywiaeth o gaffis a bwytai lleol hyfryd i roi cynnig arnynt.
  • Ysbryd Abertawe - pa mor gyfeillgar yw pobl leol, ac rydych chi'n teimlo'n gartrefol ar unwaith.

Pam dewisoch chi astudio eich gradd yn Abertawe?
Astudiais fy ngradd israddedig (BA Cymraeg) yn Abertawe cyn dechrau ar fy PhD eleni. Dewisais astudio fy ngradd yn Abertawe oherwydd pan roeddwn i'n dod i Ddiwrnod Agored, roedd pob aelod o staff yn gyfeillgar iawn ac yn gwneud popeth o fewn ei allu i wneud i mi deimlo'n gartrefol. Hefyd, roedd y cwrs yn ddiddorol iawn i mi gydag amrywiaeth o fodiwlau yr oedd gen i ddiddordeb ynddynt, ac roedd staff academaidd Adran y Gymraeg yn gyfeillgar ac yn gefnogol iawn. Yna penderfynais barhau â'm hastudiaethau a dechrau fy PhD oherwydd fy mod i'n awyddus i wneud gwaith ymchwil ond hefyd oherwydd y gefnogaeth a'r profiadau a'r cyfleoedd gwych a ges i yn Abertawe.

Beth yw eich hoff beth am eich cwrs?
Fy hoff beth am fy nghwrs israddedig oedd yr amrywiaeth o fodiwlau a oedd ar gael. Fy hoff beth am fy nghwrs ôl-raddedig yw pa mor gefnogol yw fy ngoruchwyliwr a holl aelodau staff Adran y Gymraeg.

Beth rydych chi’n bwriadu/gobeithio ei wneud ar ôl i chi raddio?
Ar ôl gorffen fy PhD, rwy'n bwriadu parhau i ymchwilio i'r maes, ac efallai dilyn gyrfa academaidd fel darlithio.

A fyddech yn argymell Prifysgol Abertawe i fyfyrwyr eraill?
Byddwn i'n argymell Prifysgol Abertawe i fyfyrwyr eraill, cant y cant - dyma'r penderfyniad gorau i mi ei wneud erioed. O'r gefnogaeth wych gan ddarlithwyr a staff eraill yn gyffredinol, i safon uchel yr addysg, y lleoliad, y bywyd cymdeithasol gwych, a'r amrywiaeth eang o gymdeithasau a chlybiau chwaraeon sydd ar gael, does dim lle tebyg i Abertawe!

Ydych chi'n aelod o gymdeithas/wedi bod yn aelod o gymdeithas?
Roeddwn i'n rhan o'r Gymdeithas Gymraeg (Y GymGym) am 3 blynedd ac roeddwn i'n Is-lywydd y gymdeithas yn ystod fy 3edd blwyddyn yn y brifysgol. Roedd bod yn rhan o'r gymdeithas yn gyfle gwych i gwrdd â phobl newydd, cwrdd â ffrindiau newydd, dysgu sgiliau newydd, rhoi cynnig ar weithgareddau gwahanol a chael archwilio Abertawe.

Ydych chi wedi byw mewn preswylfa yn ystod eich astudiaethau?
Roeddwn i'n byw ym mhreswylfa Preseli yn ystod fy mlwyddyn gyntaf, a oedd yn fflat i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith. Roedd fy mhrofiad yn y breswylfa yn wych gan ei fod yn sicrhau fy mod yn cwrdd â ffrindiau o'r diwrnod cyntaf ac yn sicrhau fy mod yn cwrdd â ffrindiau gyda phobl eraill, nid dim ond pobl ar fy nghwrs.

Ydych chi wedi cael swydd ran-amser yn ystod eich gradd?
Rydw i wedi gweithio fel Myfyriwr Llysgennad ers fy mlwyddyn gyntaf yn y brifysgol. Mae wedi bod yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd, cael nifer o brofiadau amhrisiadwy a meithrin llawer o sgiliau, ac wrth gwrs mae wedi bod yn ffordd o ennill arian wrth astudio.

Ydych chi'n gallu siarad Cymraeg?
Ydw. Mae'r cymorth gan Academi Hywel Teifi a Changen Abertawe o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol drwy gydol y tair i bedair blynedd diwethaf wedi bod yn anhygoel, ac maen nhw bob amser yn mynd y tu hwnt i ddisgwyliadau i helpu a datblygu profiad myfyrwyr cyfrwng Cymraeg ym Mhrifysgol Abertawe. Hefyd, roedd bod yn rhan o'r Gymdeithas Gymraeg a byw mewn fflat Cymraeg yn ystod fy mlwyddyn gyntaf hefyd wedi fy helpu i ddod o hyd i'm ffordd ac ymgartrefu'n haws, yn enwedig wrth symud o ardal wledig a Chymraeg iawn.