Ysgoloriaeth newydd i goffau cyfraniad arbennig Hywel Teifi Edwards i ddiwylliant Cymru

Lansio apêl er mwyn sefydlu ysgoloriaeth newydd

Mae Academi Hywel Teifi Prifysgol Abertawe wedi lansio apêl er mwyn sefydlu ysgoloriaeth newydd er cof am Hywel Teifi Edwards yn yr Eisteddfod yn Llanrwst.

Nod Ysgoloriaeth Goffa Hywel Teifi fydd cefnogi myfyrwyr ôl-radd cyfrwng Cymraeg sydd am astudio maes yn ymwneud â chyfraniad Hywel Teifi i ddysg a diwylliant Cymru - yn benodol ym meysydd:

  • Hanes
  • Llenyddiaeth
  • Y Gymraeg
  • Gwleidyddiaeth
  • Y cyfryngau‌

Yn 2020, bydd y Brifysgol yn dathlu ei chanmlwyddiant, a bydd hi’n ddegawd ers sefydlu’r Academi ym Mhrifysgol Abertawe er cof am Hywel Teifi, lle dreuliodd 30 mlynedd yn darlithio.

Wrth lansio’r Ysgoloriaeth, mae Academi Hywel Teifi yn gofyn i bobl gyfrannu ati yn fisol, gyda’r bwriad o wobrwyo’r deiliad cyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion, sir enedigol Hywel Teifi Edwards, y flwyddyn nesaf.

Meddai’r darlledwr Huw Edwards: “Rwy’n gobeithio y bydd cyfeillion o Gymru a thu hwnt yn fodlon cyfrannu at yr Ysgoloriaeth Goffa hon a fydd nid yn unig yn cadw’r cof am ‘nhad yn fyw, ond hefyd yn sicrhau cefnogaeth i ysgolheigion cyfrwng Cymraeg a pharhad i’r meysydd y treuliodd ei oes yn eu hastudio a’u dysgu.”

Dywedodd Dr Gwenno Ffrancon, Cyfarwyddwr Academi Hywel Teifi: “Mae’r Academi yn enw Hywel Teifi wedi cyfrannu’n helaeth i ysgolheictod cyfrwng Cymraeg dros y ddegawd ddiwethaf gan hybu doniau ymchwil a chreadigol ein staff a’n myfyrwyr yn barhaus. Bydd gwobrwyo myfyrwyr gydag ysgoloriaeth fel hon yn siŵr o ddyfnhau gallu’r Academi i gefnogi gwaith a chyfraniadau disglair i’r dyfodol.”

Gellir cyfrannu at yr Ysgoloriaeth drwy ebostio academihywelteifi@abertawe.ac.uk am fwy o wybodaeth neu drwy lawrlwytho'r ffurflen hon.

Neu fe allwch gyfrannu rhodd drwy lenwi'r ffurflen isod: 

 

Cyfrannu i Ysgoloriaeth Goffa Hywel Teifi

 

 
Hywel Teifi Edwards