Kyle Jones yn y Gwyddonle 2024

Mae Dr Kyle Jones, darlithydd yn Adran Seicoleg Prifysgol Abertawe, wedi datblygu menter er mwyn adeiladu cymuned ymchwil ryngddisgyblaethol o fyfyrwyr a staff Cymraeg. Bwriad y fenter yw rhoi cyfle i fyfyrwyr a staff gymryd rhan yn uniongyrchol mewn ymchwil fyw gyda staff profiadol. Bydd hyn yn cynnwys dysgu sut mae astudiaethau gwyddonol yn cael eu cynllunio a'u cynnal, gan roi profiad gwerthfawr i'r rhai sy'n cymryd rhan, a hyn oll yn cyfrannu at uchelgais Cymru i ddod yn ganolfan fyd-eang ar gyfer ymchwil ddwyieithog.

Er bod gan Gymru yr amgylchedd delfrydol ar gyfer ymchwil ddwyieithog, mae diffyg cynrychiolaeth o ran allbwn ymchwil o'i gymharu ag arweinwyr byd-eang fel Gwlad y Basg neu Gatalwnia. Awgryma Dr Jones mai rhan o'r broblem yw recriwtio grwpiau arbenigol, fel siaradwyr Cymraeg, sy'n broses hir a llafurus ac yn aml caiff y broses ei harafu gan ymdrechion recriwtio ar wahân sy'n digwydd yn annibynnol ar draws y Brifysgol. Nod y bartneriaeth yw mynd i'r afael â hyn, gan gryfhau capasiti ymchwil gyfrwng Cymraeg, hyrwyddo cydweithio ar draws disgyblaethau, a chreu cyfleoedd i fyfyrwyr ennill profiad uniongyrchol mewn prosiectau ymchwil byw.

Mae Partneriaeth Ymchwil y Ddraig yn rhwydwaith o wirfoddolwyr sy'n siarad Cymraeg sydd â diddordeb mewn cyfrannu at brosiectau ymchwil Cymraeg a dwyieithog yn Abertawe, y gellir eu paru â staff a myfyrwyr ymchwil. Ar hyn o bryd mae dwy astudiaeth fyw eisoes ar y gweill sy’n galw am siaradwyr Cymraeg. Mae'r prosiect cyntaf yn archwilio sut mae siaradwyr Cymraeg -Saesneg a Japanëeg - Saesneg yn prosesu iaith mewn amser real drwy ddefnyddio technoleg olrhain llygad (eye-tracking). Astudiaeth yw'r ail sy'n archwilio sut mae pobl o ddiwylliannau gwahanol yn gwerthfawrogi rhannau o'r corff (e.e. un llygad, un goes ac ati). Dim ond rhyw 7 munud mae'n cymryd i'w cwblhau.

Meddai Dr Jones: "Yn fy marn i, mae'r fenter hon yn cyd-fynd yn agos â blaenoriaethau strategol y Brifysgol ar gyfer dwyieithrwydd, ymgysylltu cymunedol, a chyfranogiad ymchwil. Gyda'n llwyddiant i ddenu ysgoloriaethau gan y CCC a phartneriaethau â rhwydweithiau ymchwil rhyngwladol fel Bilingualism Matters, mae angen cynyddol am gymuned ddibynadwy o wirfoddolwyr sy'n siarad Cymraeg i gefnogi'r meysydd gwaith sy'n ehangu. Felly, rwy'n gobeithio drwy ledu'r gair am y prosiect newydd hwn, byddwn yn denu gwirfoddolwyr o fewn y Brifysgol i fod yn rhan o'r gymuned arbennig hon. Ymunwch, gwnewch gysylltiadau, a helpwch i roi ymchwil ddwyieithog Cymru ar y map!"

Dyma’r ddolen i ymuno â Chymuned Ymchwil Ddwyieithog Gymraeg newydd Prifysgol Abertawe: https://forms.gle/RN91RxHVE1RGufBCA