Cynhelir y symposiwm ar Gampws y Bae Prifysgol Abertawe, cyfleuster modern, pwrpasol mewn lleoliad trawiadol ar lan y môr ym Mae Abertawe. Mae'r campws yn cynnig darlithfeydd o'r radd flaenaf, mannau cydweithredol a thechnoleg arloesol i sicrhau profiad eithriadol i'r holl gyfranogwyr.

Ynglŷn â Phrifysgol Abertawe

Mae Prifysgol Abertawe'n sefydliad blaenllaw yn y DU sy'n adnabyddus am ei rhagoriaeth ymchwil, addysgu arloesol a phartneriaethau rhyngwladol cryf. Wedi'i sefydlu ym 1920, mae gan y Brifysgol hanes balch o feithrin darganfyddiadau academaidd a chydweithio ar draws disgyblaethau. Gyda champysau sy'n edrych dros Fae Abertawe, mae'n cynnig amgylchedd bywiog lle mae myfyrwyr a staff yn gweithio ar y cyd i fynd i'r afael â heriau byd-eang, datblygu gwybodaeth a chreu effaith fyd-eang go iawn. 

Pam Campws y Bae?

  • Lleoliad llawn ysbrydoliaeth: Mae Campws y Bae ar yr arfordir prydferth lle ceir golygfeydd syfrdanol ac amgylchedd tawel ar gyfer dysgu a rhwydweithio.
  • Cyfleusterau o'r radd flaenaf: Ceir mannau addysgu a chynadledda uwch, ystafelloedd ymneilltuo a chysylltedd cyflym.
  • Mynediad Hawdd: Mae'n lleoliad cyfleus, ychydig funudau o ganol dinas Abertawe ynghyd â chysylltiadau trafnidiaeth ardderchog a pharcio ar y safle.
An aerial view of the Bay Campus
An aerial view of the Bay Campus.

Cyfeiriad:

Prifysgol Abertawe
Campws y Bae
Ffordd Fabian
Abertawe
SA1 8EN
Cymru, y DU

Cyrraedd yma:

  • Mewn Car: Cyrraedd o draffordd yr M4, ac mae digon o barcio ar gael.
  • Ar y Trên: Mae'n daith fer i Orsaf Abertawe mewn tacsi neu ar y bws.
  • Yn Hedfan: Mae Maes Awyr Caerdydd tua 45 munud i ffwrdd mewn car.

Llety:

Mae amrywiaeth o westai a fflatiau â gwasanaeth ar gael gerllaw, a cheir opsiynau ar gyfer pob cyllideb. Hefyd, bydd llety ar y campws ar gael i gynrychiolwyr. Prisiau a rhagor o wybodaeth i ddilyn.