Sut rydym yn bwriadu gwella hygyrchedd Abertawe.ac.uk

Mae ein cynllun gweithredu hygyrchedd yn dangos sut a phryd rydym yn bwriadu gwella hygyrchedd abertawe.ac.uk:

  • Ailddatblygu strwythur ein tudalennau i gael gwared ar gynnwys ailadroddus o’r prif dirnodau a gwneud defnydd o dirnodau rhanbarthol.
  • Gweithio gyda thrydydd partïon i fynd i’r afael â materion gyda theitlau tudalennau, a rhwystrau wrth ddychwelyd i’r brif dudalen a thabio ar ein tudalennau swyddi.
  • Trwsio unrhyw faterion rhyngwyneb y defnyddiwr sydd angen cyfeiriadedd penodol arnynt i’w defnyddio ar ffonau symudol
  • Gweithio gyda thrydydd partïon i sicrhau bod yr holl swyddogaethau ar gael i ddefnyddwyr bysellfwrdd o fewn y daith rithwir.
  • Disodli ffurflen gais am Brosbectws gyda fersiwn gwbl hygyrch.
  • Adolygu manylebau ARIA a’u defnydd yn erbyn teclynnau wedi’u teilwra gan gynnwys y prif ddewislen a’r charwsél’.
  • Gweithio gyda golygyddion cynnwys i godi ymwybyddiaeth o hygyrchedd a lleihau’r rhwystrau a achosir gan gynnwys sydd wedi’i greu’n wael.
  • Ymchwilio i brosesau i awtomeiddio profion cydymffurfio hygyrchedd o fewn ein proses datblygu.

Bydd y gwaith hwn yn cael ei wneud dros y 12 mis nesaf.