Sut Gwnaethom Profi Canvas

Cafodd sampl o dudalennau o system rheoli dysgu Canvas (canvas.swan.ac.uk) eu harchwilio. Dewiswyd y tudalennau er mwyn ceisio efelychu defnydd myfyriwr nodweddiadol o'r platfform dysgu. Myfyrwyr yw'r grŵp mwyaf sy'n defnyddio'r system hon, felly roedd eu profiadau'n hollbwysig.

Roedd profiadau'r defnyddiwr yn ymdrin â meysydd allweddol, gan gynnwys gwe-lywio, canfod cynnwys ac ymwneud ag ef, rhyngweithiadau ac adfer gwallau.

Roedd y sampl o dudalennau'n cynnwys:

  • Dangosfwrdd
  • Tudalen Calendr
  • Mewnflwch
  • Tudalen Lanio Cwrs
  • Tudalen Modiwlau
  • Adran Wythnos Cynnwys Modiwl, gan gynnwys:
    • Ffeil PDF wedi'i mewnblannu
    • Ffeil PowerPoint wedi'i mewnblannu
    • Tudalennau Cynnwys Canvas
  • Adran Groeso Cynnwys Modiwl, gan gynnwys:
    • Tudalen Gwybodaeth am Hyfforddwr
    • Llawlyfr wedi'i fewnblannu ar ffurf ffeil Word
  • Tudalen Cyhoeddiadau
  • Tudalen Cwisiau a Phrofion
  • Tudalen Aseiniadau Turnitin
  • Tudalen fideo a recordio darlithoedd Panopto

Mae'r archwiliad mewnol ar sampl o dudalennau wedi cynnwys y broses ganlynol:

  • Adolygiad â llaw yn seiliedig ar feini prawf A/AA WCAG (Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We)
  • Adolygiad â llaw gan ddefnyddio rhaglenni darllen sgriniau NVDA, VoiceOver a Talkback i archwilio meysydd gwe-lywio, rhyngweithio, cyfyngiadau amser ac adfer gwallau.

Cynhaliwyd y broses archwilio gan ein harbenigwr defnyddioldeb mewnol am nad oes gennym adnodd hygyrchedd penodedig. Penderfynwyd ar yr ymagwedd hon ar sail maint y wefan, yr amser, yr adnoddau a’r cyllid a oedd ar gael i’r sefydliad ar y pryd.

Mae ein hadroddiad am hygyrchedd mewnol ar gael ar gais.

Mae hyn yn ogystal ag Adroddiad WCAG am Hygyrchedd Canvas sy'n crynhoi cydymffurfiaeth y cymhwysiad o ran hygyrchedd ac a luniwyd gan drydydd parti arbenigol, webaim.org.