SUT Y PROFWYD ABERTAWE.AC.UK
Cafodd detholiad o dudalennau sampl o abertawe.ac.uk eu harchwilio. Dewiswyd y tudalennau i geisio dynwared defnydd myfyrwyr a staff:
- I gefnogi a hysbysu darpar fyfyrwyr am y Brifysgol a’r cyrsiau sydd ar gael, profwyd taith defnyddwyr yn bennaf.
- I gefnogi a hysbysu darpar staff cafodd tudalennau swyddi gwag eu profi.
Caiff y wefan ei hadeiladu yn defnyddio system rheoli cynnwys ac mae pob tudalen yn defnyddio podiau cynnwys. Mae arddull a HTML y podiau cynnwys wedi eu hailadrodd ar draws y safle, felly os byddai unrhyw ddiffyg cydymffurfio ar un dudalen, byddai wedi ei ailadrodd ar dudalennau eraill sy’n defnyddio’r un pod. Cafodd y dull hwn ei sefydlu fel y ffordd orau o archwilio a nodi unrhyw rwystrau yn yr amser sydd ar gael ar gyfer y broses.
Dyma’r tudalennau sampl a gynhwyswyd yn yr adolygiad gan unigolion ac yn awtomatig a gefnogwyd gan offer gwerthuso:
- Tudalen lanio
- A-Y cyrsiau
- Tudalen Cwrs
- Tudalen Proses Ymgeisio Israddedig
- Canlyniadau Chwilio
- Tudalen y Swyddfa Anableddau
- Ffurflen Ymholiadau Israddedig
- Ffurflen Cais am Brosbectws
- Tudalen Wybodaeth y Coronafeirws
- Tudalen Swyddi Gwag
- Tudalen Manylion Swyddi Gwag
- Tudalen Proffil Staff
Y Broses Archwilio
Cafodd y prosesau canlynol eu cynnal yn yr archwiliad mewnol ar y dudalennau sampl:
- Adolygiad awtomatig yn defnyddio offer Microsoft Insights
- Adolygiad â llaw gyda chymorth offer Microsoft Insights
- Adolygiad â llaw yn seiliedig ar rhestr wirio POUR
- Adolygiad â llaw yn defnyddio darllenydd sgrin NVDA i archwilio meysydd llywio, rhyngweithio, terfynau amser ac adfer gwallau.
Cafodd yr archwiliadau eu perfformio ar liniadur Windows 10 ac ar ffon symudol iPhone 7.
Pam y profwyd fel hyn
Cafodd y broses archwilio ei harwain gan ein harbenigwr defnyddioldeb mewnol, gan nad oes gennym adnodd hygyrchedd penodol. Penderfynwyd ar y dull hwn yn seiliedig ar faint y wefan a’r amser, adnoddau a chyllid a oedd ar gael gan y sefydliad ar y pryd.
Mae’r adroddiad prawf hygyrchedd llawn ar gael ar gais.
Sut rydym yn monitro hygyrchedd
Gwneir hefyd archwiliad cwbl awtomatig o’r wefan yn wythnosol. Mae’r prawf yn cael ei gynnal gan Silktide https://silktide.com/solutions/accessibility/. Mae’r dull hwn yn ein galluogi i fonitro hygyrchedd cyffredinol y wefan a thargedu tudalennau lle mae angen mynd i’r afael â materion.