Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU01756
Math o Gytundeb
Cyfnod Penodol
Cyflog
£47,389 i £56,535 y flwyddyn
Patrwm Gweithio
Rhan Amser
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
2 Rhag 2026
Dyddiad Cyfweliad
9 Rhag 2026
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Ar hyn o bryd, mae Prifysgol Abertawe’n cynnig cyfres o raglenni israddedig ym maes Gwyddor Gofal Iechyd. Mae’r Adran Gwyddor Gofal Iechyd yn rhan o’r Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae bron pob un o’r rhaglenni sydd wedi’u comisiynu gan Lywodraeth Cymru’n rhan o’r Ysgol hon. Yn ogystal â Gwyddor Gofal Iechyd, mae’r Ysgol hefyd yn gartref i Nyrsio, Bydwreigiaeth a Gwyddor Barafeddygol. Mae hyn yn creu diwylliant o hyfforddiant proffesiynol ac addysg ryngddisgyblaethol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â’r uned academaidd Gwyddor Gofal Iechyd. Bydd yr Uwch-hwylusydd Dysgu Clinigol mewn Ffisioleg Gardiaidd yn gyfrifol am gefnogi myfyrwyr Ffisioleg Gardiaidd pan fyddant yn treulio amser ar leoliadau gwaith. Lleolir deiliad y swydd yn y Brifysgol ac mewn byrddau iechyd yng Nghymru i sicrhau bod cyfleoedd hyfforddiant addas ar gael i fyfyrwyr. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am sicrhau bod lleoliadau gwaith ar gael, gan ddarparu gwasanaethau clinigol yn y bwrdd iechyd yn ogystal â mentora myfyrwyr. Byddem yn croesawu ceisiadau gan unigolion sy'n ystyried secondiad o swyddi yn y GIG.

Llwybr Gyrfa Academaidd

Mae'r swydd hon ar lwybr Addysg. Dyluniwyd cynllun y Llwybrau Gyrfa Academaidd i sicrhau bod cryfderau academaidd, boed mewn ymchwil, addysgu, profiad ehangach y myfyrwyr, arweinyddiaeth, neu arloesi ac ymgysylltu, i gyd yn cael eu cydnabod, eu datblygu, eu gwerthfawrogi a'u gwobrwyo mewn modd priodol. Mae gwybodaeth bellach ar gael yma.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Rhaid darparu tystysgrif foddhaol gan y GDG cyn y gellir cadarnhau dyddiad dechrau.

Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr