Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU01754
Math o Gytundeb
Cyfnod Penodol
Cyflog
£26,707 i £29,588 y flwyddyn
Patrwm Gweithio
Rhan Amser
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
25 Tach 2026
Dyddiad Cyfweliad
16 Rhag 2026
Ymholiadau Anffurfiol
Owain Howell o.w.howell@swansea.ac.uk

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Byddwch yn gweithio gyda chydweithwyr yn nhîm Ymchwil Niwrolidiol (grŵp Howell) yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe. Mae ymchwil y grŵp yn canolbwyntio ar nodi biofarcwyr ar gyfer datblygiad MS. Byddwch yn trin samplau clinigol ac ôl-farwolaethol mewn prosiectau sy’n defnyddio staenio meinwe, patholeg ddigidol a dadansoddi biofarcwyr hylifol.

Mae’r swydd 0.4 FTE hon (sy’n cyfateb i 2 ddiwrnod yr wythnos) ar gyfer graddedig biofeddygol brwdfrydig a chymhellol sydd â phrofiad profedig o weithio mewn labordy ym maes niwrowyddoniaeth a/ neu rywun sydd wrthi’n astudio’n rhan-amser at gymhwyster ôl-raddedig sy’n berthnasol i’r rôl.

Mae ymchwil niwrowyddoniaeth yn Abertawe yn cynnwys uwch ymchwilwyr, ymchwilwyr a darlithwyr, sy’n gweithio ar ddeall sail fiolegol amrywiaeth o glefydau niwroddirywiol a niwrolidiol.

Byddwch yn darparu cymorth labordy a thechnegol i brosiectau sy’n ymchwilio i sail niwrogemegol a bioleg celloedd MS – clefyd llidiol, dadfyelinol a niwroddirywiol.

Lefelau A neu gyfwerth mewn gwyddorau; cymhwyster proffesiynol perthnasol, a/neu brofiad o weithio mewn labordy niwrowyddoniaeth.

Mae’n hanfodol bod yr ymgeisydd ar gael i weithio o fis Ionawr 2027 oherwydd natur gyfyngedig o ran amser y dyfarniad.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Yn unol â Rheolau Mewnfudo cyfredol Llywodraeth y DU, nid yw'r rôl hon yn gymwys ar gyfer nawdd fisa.

Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr