- Rhif y Swydd
- SU01752
- Math o Gytundeb
- Cyfnod Penodol
- Cyflog
- £34,610 i £38,784 y flwyddyn
- Patrwm Gweithio
- Llawn Amser
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Bywyd Myfyriwr
- Lleoliad
- Singleton neu Gampws y Bae, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 30 Tach 2026
- Dyddiad Cyfweliad
- 8 Rhag 2026
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Jessica Lawson Hughes jessica.l.hughes@swansea.ac.uk
- Rachel Edwards R.L.Edwards@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Mae'r Tîm Cyngor Ariannol am benodi Ymgynghorydd Ariannol i Fyfyrwyr i weithio yn ein hadran Cymorth a Chadw Myfyrwyr, sy'n rhan o'r Gyfarwyddiaeth Bywyd Myfyrwyr.
Pwrpas y rôl hon yw darparu arweiniad i fyfyrwyr a darpar fyfyrwyr ar bob agwedd ar gyllid myfyrwyr, gan weithredu fel y pwynt cyswllt i fyfyrwyr sy'n wynebu anawsterau ariannol a chynnig cyngor ar opsiynau ariannu. Mae'r Tîm Cynghori Ariannol yn wasanaeth rhagweithiol sy'n canolbwyntio ar fyfyrwyr, ac mae'n gweithredu yn adran Cymorth a Chadw Myfyrwyr yn y Gyfarwyddiaeth Bywyd Myfyrwyr.
Mae'r gwasanaeth yn symleiddio rheoli ariannol i fyfyrwyr, yn hyrwyddo llythrennedd ariannol ac yn cynnig cymorth teilwredig i rymuso myfyrwyr i lywio heriau ariannol â hyder. Gan weithio mewn amgylchedd prysur a chyflym, bydd y rôl hon yn cynnig cyngor ac arweiniad i fyfyrwyr a darpar fyfyrwyr ynghylch rheoliadau cyllido a darpariaeth cymorth myfyrwyr. Bydd hyn yn gofyn am ddealltwriaeth dda o'r boblogaeth amrywiol o fyfyrwyr a'r gallu i gynnig cyngor ac arweiniad effeithiol. Mae'r rôl hon hefyd yn cynnwys datblygu a chyflwyno gweithgareddau ymgysylltu â myfyrwyr, gyda'r nod o feithrin gallu ariannol effeithiol ymhlith y boblogaeth myfyrwyr gyfan.
Dyma rôl ysgogol a heriol sy'n gofyn am ymagwedd hyblyg ac arloesol, a gweithio mewn amrywiaeth o leoliadau, gan gynnwys sesiynau cyngor gydag aelodau staff unigol.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Bydd angen darparu tystysgrif foddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd cyn y gellir cadarnhau dyddiad dechrau Dilëwch os nad yw’n berthnasol]
Mae'r swydd hon yn un amser llawn, dros gyfnod penodol (12 mis).
Rhannu Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr