Cynorthwy-ydd Ymchwil: Ffiseg Gronynnau Damcaniaethol - 12 mis
- Rhif y Swydd
- SU01748
- Math o Gytundeb
- Cyfnod Penodol
- Cyflog
- £39,906 i £46,049 y flwyddyn
- Patrwm Gweithio
- Llawn Amser
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
- Lleoliad
- Campws y Bae, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 8 Ion 2027
- Interview Dates
- 25 Ion 2027 - 26 Ion 2027
- Ymholiadau Anffurfiol
- Maurizio Piai m.piai@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Bydd y PDRA yn ymuno â'r rhaglen ymchwil dan arweiniad yr Athro. M. Piai, yn cymhwyso technegau theori maes dellt a gweithrediadau rhifiadol at ffurfiau newydd sy'n cynnwys cyplysu cryf o ddeinameg gyfansawdd a'i chymwysiadau, gan gyfeirio'n benodol at gydweithrediad TELOS. Bydd nodau gwyddonol penodol yn cael eu cyd-ddylunio, a gallant gynnwys, er enghraifft, ddatblygu, profi a meincnodi meddalwedd ar gyfleusterau cyfrifiadura perfformiad uchel, yn ogystal â dadansoddi ffiseg sy'n berthnasol i un neu fwy o nodau ac amcanion ffiseg y cydweithrediad.
Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol gefndir cryf mewn rhaglennu a chynnal cyfrifiadau dellt ar gyfleusterau cyfrifiadura modern, cyfochrog a ddefnyddir ym mhensaernïaeth CPU a GPU, yn ogystal â phrofiad blaenorol mewn ffiseg gronynnau ddamcaniaethol. Mae bod yn gyfarwydd â thueddiadau presennol mewn estyniadau o'r Model Safonol yn ddymunol, ynghyd ag arbenigedd mewn dulliau damcaniaeth maes effeithiol, a syniadau damcaniaethol mwy ffurfiol, megis y rhai deuoliaeth fesur/disgyrchiant. Bydd y prosiect yn cynnwys cydran datblygu meddalwedd a chydran dadansoddi ffiseg, ac felly gwahoddir ymgeiswyr i ddarparu manylion technegol yn eu cais am eu profiad blaenorol.
Disgwylir i'r ymgeisydd gymryd rhan weithredol yng nghydweithrediad TELOS, gan ymrwymo i'w nodau a’i amcanion ymchwil, ei werthoedd proffesiynol a'i gôd ymddygiad, gan gynnwys ei bolisïau ar fynediad agored, data agored a meddalwedd agored. Bydd yn cael y cyfle i gyd-oruchwylio agweddau ymchwil ar waith myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig. Bydd yn cymryd rhan yng ngweithgareddau'r Ganolfan ar gyfer Meysydd Cwantwm a Disgyrchiant, gan gynnwys mynychu a threfnu seminarau yng nghyd-destun ehangach ffiseg gronynnau ddamcaniaethol.
Contract - 12 mis - Hydrfef 2027-2028
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Rhannu Lawrlwytho Disgrifiad swydd.docx Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr