- Rhif y Swydd
- SU01747
- Math o Gytundeb
- Cyfnod Penodol
- Cyflog
- £39,906 i £46,049 y flwyddyn
- Patrwm Gweithio
- Llawn Amser
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Uned Gynllunio a Phrosiectau Strategol
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 29 Tach 2026
- Interview Dates
- 3 Rhag 2026 - 4 Rhag 2026
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Elizabeth Ellis e.i.ellis@swansea.ac.uk
- Andrew Jones Andrew.j.jones@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Mae'r Brifysgol yn chwilio am reolwr prosiect medrus i weithio ochr yn ochr â'r Pennaeth Dysgu Ar-lein i wireddu'r weledigaeth ar gyfer dysgu ar-lein.
Mae Prifysgol Abertawe yn datblygu portffolio uchelgeisiol o raglenni dysgu ar-lein, sydd wedi cael eu llunio i wella ac amrywio ei harlwy addysgol a sicrhau ei fod yn parhau i fod yn berthnasol ac yn ddeniadol, gan ddiwallu anghenion yr holl fyfyrwyr.
Mae'r Prosiect Dysgu Ar-lein yn cyfuno arbenigedd presennol y Brifysgol mewn arloesi addysgu ag arbenigedd dau gyflenwr masnachol allanol i ddatblygu a chyflwyno rhaglenni ar-lein o safon uchel mewn modd cynaliadwy y gellir ei roi ar waith ar raddfa ehangach.
Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol brofiad sylweddol o reoli prosiectau a hanes cadarn o gyflawni prosiectau'n llwyddiannus. Byddai dealltwriaeth dda o'r cyfleoedd a'r heriau strategol a gweithredol sydd ynghlwm wrth gyflawni prosiectau â blaenoriaeth yn y sector addysg uwch yn fantais.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Rhannu Lawrlwytho Disgrifiad swydd.docx Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr