Uwch-dechnegydd (Y Cyfryngau a Digidol) - Absenoldeb Mamolaeth
- Rhif y Swydd
- SU01746
- Math o Gytundeb
- Cyfnod Penodol
- Cyflog
- £34,610 i £38,784 y flwyddyn
- Patrwm Gweithio
- Llawn Amser
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 22 Tach 2026
- Dyddiad Cyfweliad
- 4 Rhag 2026
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Nadia Evans-Cook N.A.Evans@Swansea.ac.uk
- Greg Barber G.barber@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Fel aelod annatod o Adran y Cyfryngau, bydd deiliad y swydd yn darparu arbenigedd technegol a chefnogaeth academaidd ar draws ystod o fodiwlau. Mae'r rôl hefyd yn cynnwys cynnig arweiniad technegol a chymorth i ddatrys problemau i fyfyrwyr, gan sicrhau eu bod yn cael cefnogaeth amserol i ddatrys unrhyw faterion technegol a all godi yn ystod eu hastudiaethau.
Mae cyfrifoldebau ychwanegol yn cynnwys rheoli offer. Cynnal safon cyfarpar. Mae angen offer ar fyfyrwyr mewn modiwlau penodol ar gyfer eu tasgau. Mae nifer penodol o becynnau rhentu y gellir eu benthyca. Mae angen i ymgeiswyr drefnu a rheoli disgwyliadau myfyrwyr o ran offer i'w rentu, yn ogystal â monitro unrhyw fenthyciadau.
Ar wahân i hynny, mae rheolaeth a gweithrediad y gofod stiwdio a ddyrannwyd i'r Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu. Byddai unrhyw ymgeiswyr yn rheoli'r stiwdio ac yn gyfrifol am archebion i’w defnyddio. Derbyn archebion gan staff a myfyrwyr. Dysgu sut i ddefnyddio'r offer, a'r gallu i ddiwallu ceisiadau.
Gallai ymgeiswyr hefyd gael y dasg o gefnogi cyfleuster arall, a elwir yn Hydra. Mae disgwyliadau o ran cymorth yn cynnwys sefydlu y system a sicrhau bod ymarferion yn cael eu cynnal yn llwyddiannus.
Byddai'n well pe bai gan ymgeiswyr radd yn y cyfryngau, ynghyd â chyrsiau sy'n canolbwyntio ar greu cynnwys a phrofiad ymarferol. Er enghraifft, gweithredu camerâu a golygu fideo.
Byddai profiad o’r offer canlynol a sgiliau yn y meysydd cysylltiedig hyn o fantais:
- Creu cynnwys. Fideo'n bennaf.
- Gweithredu camera. Defnyddio cymysgedd o wahanol fodelau, o Blackmagic i Sony.
- Golygu fideo, yn ddelfrydol gan ddefnyddio meddalwedd Adobe neu DaVinci.
- Sgiliau gweinyddol, gan gynnwys meddalwedd safonol Microsoft a chadw cyfrifon.
- Byddai amser stiwdio a phrofiad yn fuddiol.
- Diddordeb cyffredinol a chymhwysedd mewn perthynas â thechnoleg a chyfrifiaduron.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Rhannu Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr