Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU01743
Math o Gytundeb
Cyfnod Penodol
Cyflog
£34,610 i £38,784 y flwyddyn
Patrwm Gweithio
Rhan Amser
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
18 Tach 2026
Dyddiad Cyfweliad
23 Tach 2026
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Mae’r Adran Ieithoedd Modern yn recriwtio Cymrawd Addysgu mewn Astudiaethau Ffrangeg gan gynnwys iaith, diwylliant, cyfieithu a chyfieithu ar y pryd.

Rydyn ni’n chwilio am arbenigwr Ffrangeg brwdfrydig sy’n canolbwyntio ar fyfyrwyr i ymuno â’r Adran Ieithoedd Modern, Cyfieithu a Chyfieithu ar y pryd (MLTI) fel Cymrawd Addysgu ar gontract am gyfnod penodol o 5 mis, 0.8 CALl. Mae’r swydd hon, a fydd yn para am semester, yn gyfle ardderchog i rywun sydd am ehangu ei brofiad o addysgu mewn prifysgol mewn adran gefnogol a chydweithredol.

Byddwch chi’n addysgu’r iaith Ffrangeg ar draws amrywiaeth o lefelau hyfedredd, ynghyd â chyfieithu a/neu gyfieithu ar y pryd, i fyfyrwyr israddedig a myfyrwyr ôl-raddedig. Byddwch chi’n gosod ac yn marcio asesiadau, yn rhoi adborth adeiladol yn brydlon, yn gweithredu fel Tiwtor Personol ac yn cyfrannu at ddiwrnodau agored a gweithgareddau allgymorth. Mae’r rôl yn canolbwyntio’n llwyr ar addysgu a phrofiad y myfyrwyr, felly nid oes disgwyliad i chi ymwneud ag ymchwil sy’n mynd y tu hwnt i’r hyn sy’n cefnogi eich addysgu.

Mae MLTI yn rhan o’r Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu ar Gampws Parc Singleton, ar bwys Parc Singleton ac mae’n daith gerdded fer i ffwrdd o Fae Abertawe. Rydyn ni’n dod ag iaith, diwylliant, cyfieithu a chyfieithu ar y pryd ynghyd mewn un adran, gan addysgu ar draws ein graddau israddedig a’n rhaglenni ôl-raddedig ym maes cyfieithu a chyfieithu ar y pryd. Tîm amlieithog, rhyngwladol a chyfeillgar ydyn ni, sy’n gofalu am ein myfyrwyr a’n gilydd ac mae’r ffaith ein bod yn addysgu mewn grwpiau bach yn golygu y byddwch chi’n dod i adnabod eich myfyrwyr yn dda.

Os ydych chi’n frwdfrydig am Ffrangeg ac am helpu myfyrwyr i fagu eu hyder fel ieithyddion, cyfieithwyr a chyfieithwyr ar y pryd, hoffem glywed gennych chi.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Yn eich llythyr eglurhaol, dylech chi esbonio sut rydych chi’n bodloni’r meini prawf hanfodol a dymunol a amlinellir yn y disgrifiad swydd, gan nodi enghreifftiau penodol o’ch profiad addysgu.

Swydd am gyfnod penodol yw hon sy’n para am un semester a rhagwelir y bydd y swydd yn dechrau ar 25/01/2027.

Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr