- Rhif y Swydd
- SU01739
- Math o Gytundeb
- Cyfnod Penodol
- Cyflog
- £34,610 i £38,784 y flwyddyn
- Patrwm Gweithio
- Rhan Amser
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 11 Tach 2026
- Dyddiad Cyfweliad
- 20 Tach 2026
- Ymholiadau Anffurfiol
- Andrew Kemp a.h.kemp@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Rydym yn chwilio am Gymrawd Addysgu mewn Seicoleg brwdfrydig ac ymroddedig i gyfrannu at ein darpariaeth addysgu ar lefel israddedig ac ôl-raddedig, gan gynnwys meysydd megis dulliau ymchwil, iechyd a llesiant, a seicoleg amgylcheddol. Mae'r swydd cyfnod penodol hon yn darparu cyflenwi addysgu yn ystod secondiad academaidd a ariennir, ac mae ar gael am hyd at 0.4 cyfwerth ag amser llawn (FTE) o 4 Ionawr 2027 tan 31 Awst 2027.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â chymuned academaidd fywiog a chefnogol yn yr Ysgol Seicoleg, sy'n rhan o'r Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd. Bydd deiliad y swydd yn cyfrannu at addysgu a dysgu mewn amrywiaeth o leoliadau, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) grwpiau tiwtorial bach, seminarau, gweithdai a dosbarthiadau ymarferol. Gall y cyfrifoldebau hefyd gynnwys marcio gwaith myfyrwyr, datblygu a diweddaru deunyddiau addysgu, llunio a marcio asesiadau, rhoi adborth amserol ac adeiladol, ymateb i ymholiadau gan fyfyrwyr, a chymryd rhan mewn cyfarfodydd â staff a myfyrwyr yn ôl yr angen. Yn ogystal, gall y Cymrawd Addysgu ymwneud â gweithgareddau recriwtio, allgymorth a gweithgareddau cymorth eraill sy'n ymwneud yn uniongyrchol â myfyrwyr.
Byddai'r rôl hon yn addas i ymgeisydd sy'n astudio ar gyfer PhD ar hyn o bryd neu sydd wedi graddio'n ddiweddar ac sydd â phrofiad addysgu. Er bod y swydd ar gael ar sail 0.4 cyfwerth ag amser llawn (FTE), rydym yn barod i benodi mwy nag un ymgeisydd ar sail ffracsiynol, hyd at gyfanswm y FTE sydd ar gael. Mae Prifysgol Abertawe wedi ymrwymo i ddarparu profiad rhagorol i fyfyrwyr. Rydym yn chwilio am unigolion sy'n frwd dros addysg ac sy'n ymrwymedig i addysgu arloesol sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Anogir ymgeiswyr i atodi llythyr eglurhaol yn amlinellu eu profiad addysgu a'u hargaeledd, ynghyd â CV. Nodwch hefyd a ydych yn gwneud cais am y swydd lawn ar sail 0.4 cyfwerth ag amser llawn (FTE) neu am benodiad ar sail ffracsiynol lai.
Rhannu Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr