- Rhif y Swydd
- SU01728
- Math o Gytundeb
- Parhaol
- Cyflog
- £39,906 i £46,049 y flwyddyn
- Patrwm Gweithio
- Llawn Amser
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Gwasanaeth Ymchwil, Ymrwymiad a Chyfnewidiad
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 2 Tach 2026
- Dyddiad Cyfweliad
- 13 Tach 2026
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Paola Griffiths Paola.a.griffiths@swansea.ac.uk
- Professor Cathy Thornton c.a.thornton@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Mae'r Swyddog Meinweoedd Dynol yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi fframwaith llywodraethu Ymchwil Meinweoedd Dynol y Brifysgol, gan sicrhau bod ymchwil sy'n cynnwys meinweoedd dynol yn cael ei chynnal yn foesegol, yn gyfreithlon, ac yn unol ag arfer gorau. Mae deiliad y swydd yn gyfrifol am gynnal a datblygu Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOPs) Ymchwil Meinweoedd Dynol y Brifysgol a rhoi cyngor arbenigol i ymchwilwyr, myfyrwyr a staff gwasanaethau proffesiynol.
Gan weithio'n agos gyda Phwyllgorau Moeseg Ymchwil traws-gyfadrannol a thrwy system ceisiadau moeseg Infonetica, mae'r rôl yn cefnogi adolygu ceisiadau moeseg a cheisiadau Nawdd Prifysgol ar gyfer astudiaethau sydd angen cymeradwyaeth Pwyllgor Moeseg Ymchwil y GIG. Mae deiliad y swydd yn rhoi arweiniad arbenigol ar y llwybrau cymeradwyo priodol ar gyfer astudiaethau newydd ac yn cynghori ar ofynion rheoleiddio drwy gydol cylch oes yr ymchwil.
Mae'r rôl yn hyrwyddo cydymffurfiaeth â'r Ddeddf Meinweoedd Dynol, safonau'r Awdurdod Meinweoedd Dynol, a gofynion llywodraethu cysylltiedig. Mae cyfrifoldebau'n cynnwys cynghori ar gydsyniad gwybodus, hyfforddi ymchwilwyr, rheoli cofnodion, casglu, defnyddio, trosglwyddo, storio, cadw a gwaredu samplau, gan feithrin arfer ymchwil da a diwylliant o gydymffurfiaeth barhaus.
Fel arbenigwr pwnc y Brifysgol ar gyfer Ymchwil Meinweoedd Dynol, mae deiliad y swydd yn gweithio ar y cyd ag ymchwilwyr, pwyllgorau moeseg, noddwyr a chyrff rheoleiddio allanol i gefnogi ymchwil o ansawdd uchel sy'n cydymffurfio â rheoliadau a diogelu enw da a rhwymedigaethau cyfreithiol y Brifysgol.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Rhannu Lawrlwytho Disgrifiad swydd.docx Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr