Arweinydd Canolfan Datblygu Chwaraewyr (PDC) Rygbi Menywod (Gorllewin Cymru)
- Rhif y Swydd
- SU01724
- Math o Gytundeb
- Cyfnod Penodol
- Cyflog
- £34,610 i £38,784 y flwyddyn
- Patrwm Gweithio
- Llawn Amser
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Ystadau a Gwasanaethau Campws
- Lleoliad
- Singleton neu Gampws y Bae, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 6 Tach 2026
- Dyddiad Cyfweliad
- 24 Tach 2026
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Ben Lucas B.D.Lucas@swansea.ac.uk
- Sadie Mellalieu S.I.Mellalieu@Swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Mae gennym gyfle cyffrous i hyfforddwr rygbi uchelgeisiol a brwdfrydig â chymhwyster lefel 3 sy’n canolbwyntio ar ddatblygu chwaraewyr i ymuno â thîm ymroddedig. Gyda’n gilydd, ein nod yw creu amgylchedd datblygu sy’n ysbrydoli ac sy’n trawsnewid y genhedlaeth nesaf o chwaraewyr rygbi benywaidd cenedlaethol a rhyngwladol yng ngorllewin Cymru.
Bydd yr Arweinydd Canolfan Datblygu Chwaraewyr (PDC) yn arwain amgylchedd datblygu sy’n ysbrydoli ac sy’n trawsnewid y genhedlaeth nesaf o chwaraewyr rygbi benywaidd cenedlaethol a rhyngwladol yng ngorllewin Cymru. Bydd yn arwain ac yn rheoli rhaglenni’r Ganolfan Datblygu Chwaraewyr, gan gynllunio a chyflwyno gwasanaethau i chwaraewyr rhwng 14 a 24 oed yng ngorllewin Cymru (grwpiau Rhaglen Chwaraewyr Datblygol, Grŵp Datblygu Dawn a Grŵp Datblygu Perfformiad).
Bydd yr Arweinydd yn hyfforddi ac yn rheoli’r Grŵp Datblygu Perfformiad (PDG) i bobl dros 18 oed yn uniongyrchol a bydd hefyd yn goruchwylio, yn arwain, yn rheoli ac yn cyflwyno gwasanaethau i’r Grŵp Datblygu Dawn (TDG) i bobl ifanc rhwng 16 ac 18 oed). Bydd gan y grŵp hwn 2 neu 3 canolfan hyfforddiant ategol sy’n gysylltiedig â Chanolfan Datblygu Chwaraewyr y Gorllewin.
Mae cwmpas y rôl yn cynnwys pob agwedd ar ddatblygu chwaraewyr yng Nghanolfan Datblygu Chwaraewyr y Gorllewin, a bydd gallu cryf i gyfathrebu â rhanddeiliaid allweddol ar draws gorllewin Cymru yn rhan hanfodol o lwyddiant ecosystem perfformiad y rhanbarth.
Mae’r rôl yn allweddol wrth ysgogi athroniaeth a safonau datblygu chwaraewyr a datblygiad personol y Ganolfan Datblygu Chwaraewyr (gan gynnwys diwallu anghenion addysgol a phroffesiynol) ac, wrth wneud hyn, fodloni amcan strategol Undeb Rygbi Cymru sef ‘datblygu mwy o chwaraewyr gwell ar gyfer gemau proffesiynol a thros Gymru drwy brofiadau sy’n cyfoethogi bywyd’.
Bydd Arweinydd y Ganolfan Datblygu Chwaraewyr yn goruchwylio rhaglen Rygbi Menywod Prifysgol Abertawe.
Lleolir deiliad y swydd ym Mharc Chwaraeon Prifysgol Abertawe a bydd yn gweithio ledled rhanbarth gorllewin Cymru i fodloni amcanion y Ganolfan Datblygu Chwaraewyr. Dyma gyfle i chi ymuno â’n Tîm Perfformiad Uchel a bod yn rhan o sefydliad proffesiynol a blaengar a fydd ar flaen y gad ym myd chwaraeon, iechyd a ffitrwydd yng Nghymru.
Dyma gyfle gwirioneddol unigryw, ac rydyn ni’n chwilio am arweinydd gwybodus, profiadol, dawnus sy’n llawn ysbrydoliaeth ac sy’n uchel ei gymhelliant i yrru’r rhaglen yn ei blaen, arwain newid trawsnewidiol a chreu effaith go iawn ym myd rygbi menywod yng Nghymru.
Mae’n hanfodol bod deiliad y swydd yn gallu gweithio gyda’r hwyr a thros y penwythnos yn ogystal â theithio yn unol â gofynion a natur y rôl.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Bydd angen darparu tystysgrif foddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd cyn y gellir cadarnhau dyddiad dechrau.
Rhannu Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr