- Rhif y Swydd
- SU01722
- Math o Gytundeb
- Cyfnod Penodol
- Cyflog
- £34,610 i £38,784 y flwyddyn
- Patrwm Gweithio
- Rhan Amser
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 3 Tach 2026
- Dyddiad Cyfweliad
- 12 Tach 2026
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Jason Davies jason.davies@swansea.ac.uk
- Ian Walker ian.walker@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Mae'r Ysgol Seicoleg yn addysgu MSc Seicoleg Fforensig a achredir gan y BPS. Os byddwch yn llwyddiannus yn ymgeisio am y rôl hon, byddwch yn ymuno â thîm fforensig i helpu i addysgu rhai o fodiwlau craidd y rhaglen. Byddwch hefyd yn aelod o gymuned ehangach yr Ysgol Seicoleg, gyda thros 40 o aelodau staff academaidd.
Mae gan y rhaglen gysylltiadau rhagorol â gwasanaethau lleol y GIG, cyfiawnder troseddol, y sector preifat a’r trydydd sector, sy'n rhoi mewnbwn i'r rhaglen.
Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig a galluog ag arbenigedd mewn seicoleg fforensig a phrofiad addysgu. Rydym yn disgwyl i ymgeiswyr feddu ar MSc neu gyfwerth mewn seicoleg, gyda chymhwysedd ar gyfer Aelodaeth Siartredig i Raddedigion (GBC) yn seiliedig ar feini prawf Cymdeithas Seicolegol Prydain. Byddai meddu ar PhD ac achrediad seicoleg fforensig proffesiynol yn hynod ddymunol.
Swydd am gyfnod penodol yw hon tan fis Medi 2027, ac mae'n 0.6 CALl (trafodir patrymau gweithio, ond bydd rhai diwrnodau penodol bob wythnos yn unol ag amserlenni'r modiwl).
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Rhannu Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr