- Rhif y Swydd
- SU01721
- Math o Gytundeb
- Cyfnod Penodol
- Cyflog
- £47,389 i £56,535 y flwyddyn
- Patrwm Gweithio
- Llawn Amser
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 26 Hyd 2026
- Dyddiad Cyfweliad
- 3 Tach 2026
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Joanne Davies joanne.l.davies@swansea.ac.uk
- Alwena Morgan A.H.Morgan@Swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Mae'r Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd yn chwilio am Uwch-ddarlithydd profiadol ac arloesol (Uwch-addysgwr Efelychu Cyfrwng Cymraeg) i ymuno â'r Ganolfan Efelychu a Dysgu Ymdrochol (SUSIM). Cynigir y swydd academaidd Gradd 9 hon ar sail cyfnod penodol o dair blynedd ar y llwybr Addysg ac Ymchwil (Addysg).
Gan weithio o fewn rhaglen dan arweiniad yr Athro Joanne Davies, byddwch yn cydweithio â SUSIM, y Gyfadran a'n timau Cymraeg, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ein partneriaid AaGIC a’r GIG, i ehangu a gwreiddio addysg seiliedig ar efelychu cyfrwng Cymraeg a dwyieithog. Byddwch yn dylunio, yn cynllunio, yn cyflwyno, yn asesu ac yn gwerthuso efelychu un-proffesiwn a rhyngbroffesiynol, gweithgarwch OSCE, senarios IRIS a'r Cynnig Rhagweithiol; yn mentora staff addysgu; ac yn cyfrannu at ymchwil, ysgolheictod, gwella ansawdd a dysgu systemau.
Bydd eich prif weithgareddau'n cynnwys:
- Datblygu, peilota a gwerthuso cwricwla a senarios cyfrwng Cymraeg a dwyieithog.
- Hwyluso efelychiadau ac ôl-drafodaethau drwy'r Gymraeg a'r Saesneg.
- Mentora staff addysgu a datblygu 4–6 o gyd-arweinwyr, yn amodol ar gapasiti staffio.
- Ymgorffori'r Cynnig Rhagweithiol a safonau ASPiH ac AaGIC.
- Cynnal ymchwil ac ysgolheictod, sicrhau ansawdd a gwerthuso effaith.
- Cyflawni ac adrodd ar Ddangosyddion Perfformiad Allweddol sy'n gysylltiedig â chynllun tair blynedd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol (CCC) ar gyfer addysg efelychu cyfrwng Cymraeg.
Mae sgiliau Cymraeg Lefel 3 (rhugl) yn hanfodol ar adeg penodi. Bydd gennych hefyd radd Meistr berthnasol, cymhwyster addysgu cydnabyddedig a chofrestriad proffesiynol cyfredol, ynghyd â phrofiad uwch mewn addysg glinigol ac efelychu ac ardystiad addysgwr efelychu cydnabyddedig neu brofiad cyfatebol.
Llwybr Gyrfa Academaidd
Mae'r swydd hon ar lwybr Addysg ac Ymchwil (Addysg). Dyluniwyd cynllun y Llwybrau Gyrfa Academaidd i sicrhau bod cryfderau academaidd, boed mewn ymchwil, addysgu, profiad ehangach y myfyrwyr, arweinyddiaeth, neu arloesi ac ymgysylltu, i gyd yn cael eu cydnabod, eu datblygu, eu gwerthfawrogi a'u gwobrwyo mewn modd priodol. Mae gwybodaeth bellach ar gael yma.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 3 - Rhugl. Bydd deiliad y swydd yn gallu cynnal sgwrs rugl yn y Gymraeg ar fater sy'n gysylltiedig â gwaith ac ysgrifennu deunydd Cymraeg gwreiddiol yn hyderus.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Rhaid derbyn ac asesu tystysgrif DBS foddhaol cyn y gellir cadarnhau dyddiad dechrau.
Mae hon yn swydd cyfnod penodol am dair blynedd, wedi'i lleoli'n bennaf ar Gampws Singleton, gyda gwaith ar draws safleoedd SUSIM, gan gynnwys Campws Parc Dewi Sant, ac ar safleoedd partneriaid y GIG ledled Cymru yn ôl yr angen. Mae'r swydd yn amser llawn; caiff ceisiadau am weithio'n rhan-amser eu hystyried.
Mae sgiliau Cymraeg Lefel 3 (rhugl) yn hanfodol ar adeg penodi. Dylai ymgeiswyr ddangos yn glir sut maent yn bodloni'r fanyleb person, yn enwedig o ran gradd Meistr berthnasol, cofrestriad proffesiynol cyfredol, cymhwyster addysgu cydnabyddedig, profiad uwch mewn addysg glinigol ac efelychu, ardystiad addysgwr efelychu neu brofiad cyfatebol, datblygu staff addysgu, ymchwil/ysgolheictod ac efelychu trosiadol neu brofiad o wella ansawdd