Rheolwr Achosion Myfyrwyr (Cwynion ac Adolygiadau Terfynol)
- Rhif y Swydd
- SU01706
- Math o Gytundeb
- Cyfnod Penodol
- Cyflog
- £39,906 i £46,049 y flwyddyn
- Patrwm Gweithio
- Llawn Amser
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Gwasanaethau Addysg
- Lleoliad
- Singleton neu Gampws y Bae, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 11 Hyd 2026
- Dyddiad Cyfweliad
- 20 Hyd 2026
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Natalie Wathan N.A.Wathan@Swansea.ac.uk
- Jane Lewis-Normand J.M.E.Lewis-Normand@Swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Swydd am gyfnod penodol o 12 mis yw hon.
Prif nod y Rheolwr Achosion Myfyrwyr (Cwynion ac Adolygiadau Terfynol) fydd rheoli tîm sy’n gyfrifol am gylch gwaith Rheoli Achosion Myfyrwyr sy’n cynnwys y canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt: cwynion, adolygiadau terfynol, urddas yn y gwaith ac wrth astudio a gwaith arall sy'n gysylltiedig ag achosion myfyrwyr.
Gweithio mewn partneriaeth â Rheolwyr Achosion Myfyrwyr eraill, gan gefnogi ymagwedd sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau, ysgogi, datblygu a defnyddio sgiliau i ddarparu atebion arloesol a chreadigol. Elfen hanfodol o'r rôl yw'r gallu i sicrhau bod ymatebion i achosion o ansawdd uchel, yn amserol, ac yn cefnogi'r broses o ddarparu profiad myfyrwyr o ansawdd uchel.
Rhaid i ymgeiswyr fod yn llawn cymhelliant, yn wydn, yn rhagweithiol, yn drefnus a dangos y gallu i gyfathrebu ag ystod eang o bobl a gallu parchu lefel uchel o gyfrinachedd. Dylech feddu ar brofiad o reoli ac ysgogi tîm a meddu ar radd a/neu gymhwyster cyfreithiol neu brofiad gwaith perthnasol sylweddol. Dylech chi feddu ar brofiad o reoli achosion ac ymchwiliadau a'r gallu i roi arweiniad a chyngor i eraill mewn perthynas â gwaith sy'n gysylltiedig ag achosion. Bydd gennych sgiliau cyfathrebu a dylanwadu rhagorol, byddwch yn sefydlu hygrededd yn gyflym gyda staff ar bob lefel, a bydd gennych brofiad o gyflwyno prosesau ac arweiniad yn amserol ac yn effeithiol. Bydd gennych lygad craff am fanylion a'r gallu i weithio i derfynau amser tynn yn cyflawni canlyniadau mewn amgylchedd sy'n sensitif o ran amser.
Bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd weithio ar Gampws Singleton.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Rhannu Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr