Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU01705
Math o Gytundeb
Cyfnod Penodol
Cyflog
£13.55 yr awr
Patrwm Gweithio
Rhan Amser
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Gwasanaethau Addysg
Lleoliad
Singleton neu Gampws y Bae, Abertawe
Dyddiad Cau
6 Hyd 2026
Interview Dates
27 Hyd 2026 - 28 Hyd 2026
Ymholiadau Anffurfiol
Julie Matthews Julie.A.Matthews@Swansea.ac.uk

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Mae'r Gwasanaethau Addysg yn darparu gwasanaethau proffesiynol o safon i fyfyrwyr, staff a rhanddeiliaid allanol mewn agweddau sy'n gysylltiedig â gweinyddiaeth academaidd ar gyfer rhaglenni astudio a addysgir ac ymchwil, gan gynnwys achosion myfyrwyr, cwynion, arholiadau, asesu a dilyniant a chynulliadau gradd a gwobrwyo. Ei chylch gorchwyl yw cefnogi uchelgeisiau strategol y Brifysgol a chyflwyno, lle bo hynny'n briodol, newid ar draws y sefydliad cyfan, gan gyflawni gwelliannau mewn meysydd strategol allweddol i wella profiad myfyrwyr Abertawe. 

Bydd deiliad y swydd yn cefnogi gwaith Swyddfa Arholiadau'r Brifysgol wrth gyflwyno trefniadau arholiadau ar draws y ddau gampws a darparu profiad o safon i fyfyrwyr.
Bydd disgwyl i oruchwylwyr gynorthwyo'r Prif Oruchwyliwr wrth ddosbarth papurau arholiad, goruchwylio'r arholiad a chasglu a chofnodi manylion y sgriptiau a gwblhawyd ar ddiwedd pob arholiad. 

Bydd y rôl hon yn addas i ymgeiswyr sy'n hynod drefnus, sydd â sgiliau cyfathrebu da ac sy'n gallu dangos dealltwriaeth o bwysigrwydd prosesau arholiadau.

Bydd angen i ddeiliad y swydd weithio ar draws safleoedd y Brifysgol yn ôl yr angen, a bod ar gael i weithio yn ystod prif gyfnodau arholiadau'r Brifysgol. Ar gyfer Blwyddyn Academaidd 2026/27, y prif gyfnodau yw dydd Llun 4 Ionawr tan dydd Gwener 22 Ionawr a dydd Llun 10 Mai tan ddydd Gwener 4 Mehefin 2027. 

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Yn unol â Rheolau Mewnfudo cyfredol Llywodraeth y DU, nid yw'r rôl hon yn gymwys ar gyfer nawdd fisa.

Sylwer na allwn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr presennol.

Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr