Cynorthwy-ydd Gwybodaeth ac Ymholiadau - Cyfnod Mamolaeth)
- Rhif y Swydd
- SU01700
- Math o Gytundeb
- Cyfnod Penodol
- Cyflog
- £25,107 i £26,093 y flwyddyn
- Patrwm Gweithio
- Llawn Amser
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Academi Hywel Teifi
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 4 Hyd 2026
- Dyddiad Cyfweliad
- 7 Hyd 2026
- Ymholiadau Anffurfiol
- Lynsey Thomas l.a.thomas@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Rydym yn recriwtio Cynorthwy-ydd Gwybodaeth ac Ymholiadau i ymdrin ag ymholiadau cyffredinol gan aelodau'r cyhoedd. Chi fydd llais ac wyneb Prifysgol Abertawe.
Fel Cynorthwy-ydd Gwybodaeth ac Ymholiadau byddwch yn cynnig ymateb cychwynnol y Brifysgol i ymholiadau cyffredinol gan aelodau'r cyhoedd. Felly, chi fydd llais ac wyneb Prifysgol Abertawe.
Bydd gennych rôl ganolog wrth ddelio ag ymholiadau cwsmeriaid a dderbynnir drwy alwadau i switsfwrdd y Brifysgol neu ymweliadau gan aelodau'r cyhoedd, myfyrwyr a staff â derbynfa Tŷ Fulton ar Gampws Parc Singleton. Byddwch yn rhoi gwybodaeth gywir ac yn cyfeirio cwsmeriaid at yr adnoddau priodol a'r gwasanaethau cymorth sydd ar gael.
Rydym yn chwilio am unigolyn hyderus a gwydn sy'n ymfalchïo mewn darparu gwasanaeth cwsmeriaid ardderchog gan ddefnyddio cyfathrebu clir, yn Gymraeg ac yn Saesneg. Byddwch yn cael eich ysgogi gan waith tîm yn ogystal â gallu cymhell eich hun, a dangos parodrwydd a'r gallu i ddysgu gwybodaeth newydd i gynorthwyo cwsmeriaid.
Byddwch yn gweithio ar y cyd ag ystod o dimau'r Brifysgol i ymateb i ymholiadau a ddaw gan fyfyrwyr, staff ac aelodau'r cyhoedd, a gweithio'n agos yn enwedig gyda thimau Ystadau, Gwasanaethau Preswyl, Hwb ac Undeb y Myfyrwyr.
Bydd gan ddeiliad y swydd y gallu i gyfathrebu a sgwrsio yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 3 - Rhugl. Bydd deiliad y swydd yn gallu cynnal sgwrs rugl yn y Gymraeg ar fater sy'n gysylltiedig â gwaith ac ysgrifennu deunydd Cymraeg gwreiddiol yn hyderus.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Yn unol â Rheolau Mewnfudo cyfredol Llywodraeth y DU, nid yw'r rôl hon yn gymwys ar gyfer nawdd fisa.
Rhannu Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr