Doethuriaeth MSCA: Amrywiaeth Ymatebol yn rheoli adfer ecolegol rhywogaethau planhigion estron sy'n ymosod mewn tirweddau ôl-ddiwydiannol
- Rhif y Swydd
- SU01693
- Math o Gytundeb
- Cyfnod Penodol
- Cyflog
- £34,610 i £38,784 y flwyddyn
- Patrwm Gweithio
- Llawn Amser
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 30 Medi 2026
- Interview Dates
- 13 Hyd 2026 - 16 Hyd 2026
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Mike Fowler m.s.fowler@swansea.ac.uk
- Dan Eastwood d.c.eastwood@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Mae amrywiaeth ymatebion yn disgrifio’r amrywiaeth o ran sut mae unigolion, rhywogaethau neu grwpiau gweithredol yn ymateb i newid amgylcheddol ac mae’r cysyniad yn cael ei gydnabod yn fwyfwy fel ysgogwr allweddol o wydnwch ecosystemau. Mae deall a gwella amrywiaeth ymatebion yn hanfodol, felly, ar gyfer cadw bioamrywiaeth a chefnogi ecosystemau gwydn mewn byd sy’n newid.
Amcangyfrifir bod y problemau cymdeithasol-ecolegol a achosir gan blanhigion ymledol yn costio degau o filiynau o ewros (rhwng £5 biliwn ac £14 biliwn yn y DU yn unig), ac mae’r problemau hyn wedi’u gwaethygu gan lawer o rywogaethau anfrodorol yn ymledu ar yr un pryd yn yr un ardaloedd.
Mae Prifysgol Abertawe’n gwahodd ceisiadau am swydd i Ymgeisydd Doethurol yn Rhwydwaith Doethurol Gweithredoedd Marie Skłodowska-Curie ReDiLEEP: Defnyddio gwybodaeth am amrywiaeth ymatebion a yrrir gan wyddoniaeth i gynnal gwaith diogelu ac adfer ecosystemau’n effeithlon .
Bydd yr Ymgeisydd Doethurol yn ymchwilio i amrywiaeth ymatebion ar draws dimensiynau cymdeithasol-ecolegol mewn rhywogaethau planhigion anfrodorol gweithredol unigryw sy’n ymledu ar y cyd mewn tirweddu ôl-ddiwydiannol sydd wedi dirywio ar draws de Cymru (DU). I gyrraedd y nod hwn, bydd yr ymgeisydd yn integreiddio treialon tŷ gwydr, arbrofion maes, arolygon tirweddau a modelau efelychu i werthuso sut mae rhyngweithiadau ymysg cyd-ymledwyr lluosog, eu hamgylchedd a hanes eu rheolaeth, yn llywio deinameg ymledu, gan lywio strategaethau adfer cynaliadwy sy’n hyrwyddo ecosystemau gwydn. Cynhelir secondiad arfaethedig gydag Advanced Invasives, gan ddarparu cyfle i’r ymgeisydd gydweithio â chwmni sefydledig sy’n darparu gwaith rheoli rhywogaethau ymledol ar raddfa tirweddau mewn modd ymarferol, yn seiliedig ar dystiolaeth sy’n ymwneud â pholisi.
Bydd y prosiect yn darparu gwybodaeth newydd am sut mae amrywiaeth ymatebion yn llywio deinameg cyd-ymledu o dan straenachoswyr lluosog, gan gynnwys rolau cystadleuaeth, hwyluso, effeithiau â blaenoriaeth, pwysau egin a hanesion priddoedd, sut mae’r prosesau hyn yn effeithio ar ganlyniadau rheoli a sut gellir eu hymgorffori wrth lunio polisïau.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Rhannu Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr