- Rhif y Swydd
- SU01680
- Math o Gytundeb
- Cyfnod Penodol
- Cyflog
- £18.95 - £35.63 yr awr
- Patrwm Gweithio
- Rhan Amser
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Academi Hywel Teifi
- Lleoliad
- Arall - Gweler y disgrifiad swydd
- Dyddiad Cau
- 13 Medi 2026
- Dyddiad Cyfweliad
- 23 Medi 2026
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Iestyn Llwyd i.llwyd@abertawe.ac.uk
- Rhiannon Britton rhiannon.britton@abertawe.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Mae Dysgu Cymraeg - Ardal Bae Abertawe (DCABA) yn chwilio am unigolion brwdfrydig i ymuno â‘n tîm o diwtoriaid iaith fydd yn meithrin ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg newydd.
Mae swyddi Tiwtoriaid Cysylltiol yn ganolog i ymdrechion DCABA i gwrdd â‘r galw cynyddol am wersi yn ein rhanbarth, a thu hwnt. Dyma gyfle cyffrous i unigolyn sy’n angerddol dros y Gymraeg, yn mwynhau gweithio gyda phobl ac sydd am gyfrannu at dwf a datblygiad y Gymraeg yn ardal Bae Abertawe a thu hwnt.
Fel Tiwtor Cysylltiol, byddwch yn darparu gwersi Cymraeg o safon uchel, gan greu amgylchedd dysgu cynhwysol, cadarnhaol a chefnogol. Byddwch yn annog dysgwyr i ddatblygu eu hyder a’u sgiliau iaith, gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau ac adnoddau i wneud dysgu’r Gymraeg yn berthnasol, ymarferol a phleserus.
Mae hon yn rôl hyblyg, gyda gwaith yn cael ei gynnig ar sail anghenion y ddarpariaeth ac argaeledd y tiwtor. Mae’r trefniant tâl fesul awr yn cynnig cyfle i diwtoriaid gyfuno’r rôl ag ymrwymiadau eraill a chymryd rhan yn y gwaith mewn ffordd sy’n cyd-fynd â’u hargaeledd cyson a’u hamgylchiadau.
Byddwch yn gweithio gyda dysgwyr o wahanol gefndiroedd a lefelau gallu, ynghyd â chydweithio â thiwtoriaid a’r tîm ehangach. Mae’r gallu i feithrin perthynas dda â dysgwyr, cyfathrebu’n effeithiol a chynnal awyrgylch dysgu ysgogol yn hanfodol.
Rydym yn chwilio am unigolion sydd â sgiliau Cymraeg rhagorol, ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol ac agwedd hyblyg a chadarnhaol. Bydd profiad o addysgu neu hyfforddi yn fanteisiol, ond yr un mor bwysig yw brwdfrydedd dros helpu eraill i fwynhau a defnyddio’r Gymraeg.
Os ydych yn barod i ymuno â’n tîm ac ysbrydoli mwy o bobl i ddysgu, defnyddio a mwynhau’r Gymraeg, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 3 - Rhugl. Bydd deiliad y swydd yn gallu cynnal sgwrs rugl yn y Gymraeg ar fater sy'n gysylltiedig â gwaith ac ysgrifennu deunydd Cymraeg gwreiddiol yn hyderus.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Gofynnir i ymgeiswyr ddarparu cais ar-lein yn Gymraeg gan ystyried y meini prawf uchod yn ofalus, ac i ddarparu tystiolaeth sy’n dangos eich gallu i’w cyflawni, ac i amlinellu beth sydd gennych i’w gyfrannu i’r swydd. (Datganiad hyd at 1,000 gair)
Ceir manylion llawnach am y rôl yn y Swydd Ddisgrifiad.
Rhannu Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr