- Rhif y Swydd
- SU01678
- Math o Gytundeb
- Cyfnod Penodol
- Cyflog
- £39,355 i £45,413 y flwyddyn
- Patrwm Gweithio
- Llawn Amser
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 22 Medi 2026
- Dyddiad Cyfweliad
- 9 Tach 2026
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Laura Seymour Laura.Seymour@Swansea.ac.uk
- Bridget Bartlett Bridget.Bartlett@Swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Fel aelod o Brifysgol Abertawe, byddwch yn ymuno â chydweithwyr sy'n cynnal ymchwil o safon fyd-eang mewn astudiaethau anableddau ac astudiaethau niwroamrywiaeth ar draws disgyblaethau. Byddwch yn meddu ar y swydd am gyfnod penodol o ddwy flynedd ar y prosiect AMEND - Niwrowahaniaeth Ewropeaidd Modern Cynnar. Mae AMEND yn brosiect 6 blynedd a ariennir gan Ymddiriedolaeth Wellcome sy'n canolbwyntio ar ffyrdd pobl niwrowahanol o ddarllen ac ymgysylltu â thestunau.
Rydym yn chwilio am ymchwilydd ansoddol, sydd â diddordeb mewn gweithio gyda phobl niwrowahanol i archwilio ffyrdd niwrowahanol o ymgysylltu â thestunau. Byddwn yn darparu cronfa o destunau i chi eu defnyddio, mewn fformatau gwahanol (er enghraifft, Saesneg wedi'i moderneiddio, sain neu Iaith Arwyddion Prydain ar gyfer hygyrchedd, ac ieithoedd gwahanol, yn ddibynnol ar yr hyn sydd ei angen ar eich cyfranogwyr yn yr ymchwil).
Mae diffiniad y prosiect o niwrowahaniaeth yn eang ac yn gynhwysol ac yn cynnwys ymchwil i feysydd megis gwrando ar lais, caethiwed, a dementia ochr yn ochr â'r hyn y tybir yn gyffredin yn 'gyflyrau niwrowahanol' megis awtistiaeth, ac i'r cysyniad o niwrowahaniaeth ei hun. Ein nod yw archwilio a gwerthfawrogi gwerth amrywiaeth niwrowahaniaeth, a rhoi sylw i gymunedau niwrowahanol sydd fel arfer ar yr ymylon megis pobl ddi-eiriau a phobl niwrowahanol o liw.
Byddwch yn cyfrannu at ail gyfnod prosiect AMEND, gan weithio gyda'r Prif Ymchwilydd a'r Gweinyddwr i ateb dau gwestiwn ymchwil:
- Pa ddealltwriaeth newydd o lenyddiaeth rydym yn ei chael pan fyddwn yn galluogi i'n ffyrdd niwrowahanol o ddarllen ffynnu a datblygu yn hytrach na'u cuddio?
- Sut gall testunau modern cynnar ein helpu i ddeall ein profiad personol o niwrowahaniaeth?
Nid oes angen arbenigedd mewn llenyddiaeth fodern gynnar ar gyfer y swydd ôl-ddoethurol hon, oherwydd cynhelir yr ymchwil hanesyddol a llenyddol gan aelodau eraill o dîm y prosiect. Ar gyfer y swydd hon, rydym yn chwilio am rywun i gynnal prosiect ymchwil ansoddol. Efallai y bydd gennych gefndir yn y gwyddorau cymdeithasol, neu efallai y bydd gennych gefndir yn y dyniaethau sy'n cynnwys profiad o gynnal prosiectau ansoddol (cyfweliadau, grwpiau ffocws, holiaduron). Efallai y bydd gennych brofiad o weithio gyda chyfranogwyr ymchwil niwrowahanol, neu gyda grwpiau eraill sydd wedi'u hymylu, er nad yw hyn yn hanfodol.
Mae ail gyfnod y prosiect yn cynnwys:
- Cyfweliadau a grwpiau ffocws ymchwil ansoddol gyda 150 o gyfranogwyr niwrowahanol. Byddwch chi'n cynnal y rhain ochr yn ochr â’r Prif Ymchwilydd. Fel rhan o hyn, byddwch chi'n cynllunio, yn cyflwyno, ac yn ysgrifennu eich is-brosiect eich hun yn archwilio i sut mae pobl niwrowahanol yn ymgysylltu â thestunau sydd wedi'u casglu gan y dîm ymchwil yn ystod cyfnod cyntaf y prosiect.
- Cynnal gweithdy fel rhan o gyfres o weithdai ar ymgysylltiadau niwrowahanol â llenyddiaeth, a chyd-olygu rhifyn arbennig o erthyglau sy'n deillio o'r gyfres o weithdai hyn gyda'r Prif Ymchwilydd. Mae gweithdai eraill yn y gyfres yn ymdrin â phynciau fel ymgysylltiadau synhwyraidd â llyfrau, creu llyfrau, tawelwch a darllen, a brodwaith fel ymwrthedd gorffwysol.
Mae grant y prosiect yn rhoi cymorth ariannol i chi ymweld ag archifau a mynychu cynadleddau fel rhan o'ch rôl, a hyfforddiant wedi'i ariannu mewn meysydd sy'n berthnasol i'r prosiect. Byddwch yn derbyn mentora rheolaidd gan y Prif Ymchwilydd, a'r cyfle i gael ail fentor neu fentor amgen yn Abertawe.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
I gyflwyno cais anfonwch:
- Gynllun prosiect: hyd at un ochr A4 (neu, os yw'n fwy hygyrch i chi, ffeil fideo neu sain hyd at 3 munud o hyd) yn disgrifio'r prosiect dwy flynedd o hyd ar niwrowahaniaeth modern cynnar y gallech ei ddilyn os byddwch yn llwyddiannus ar gyfer y rôl hon.
- Llythyr eglurhaol: hyd at un ochr A4 (neu, os yw'n fwy hygyrch i chi, ffeil fideo neu sain hyd at 3 munud o hyd) yn esbonio sut rydych chi'n bodloni'r meini prawf ar gyfer y rôl hon.
- CV ar uchafswm o ddwy ochr A4.
Defnyddiwch ffont pwynt 11 ar gyfer y dogfennau hyn.
Ar gyfer ymgeiswyr sy'n cyrraedd y rhestr fer, bydd angen dwy sampl o'ch gwaith (wedi'i gyhoeddi neu heb ei gyhoeddi) neu sampl gyfatebol o'ch gwaith presennol (megis podlediad) cyn y cyfweliad.
Rhannu Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr