Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU01675
Math o Gytundeb
Cyfnod Penodol
Cyflog
£34,132 i £38,249 y flwyddyn
Patrwm Gweithio
Rhan Amser
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
6 Medi 2026
Dyddiad Cyfweliad
24 Medi 2026
Ymholiadau Anffurfiol
Dr Emily Lowthian e.m.lowthian@swansea.ac.uk

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Ymunwch ag Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Abertawe i chwarae rhan allweddol wrth gyflawni prosiect strategol ESRC IAA sy’n canolbwyntio ar gasglu a thystiolaethu effaith ymchwil yn y byd go iawn. Mae'r swydd hon wedi'i hariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol er mwyn cefnogi gweithgareddau effaith mewn perthynas â chanlyniadau addysgol plant sydd â phrofiad o ofal, a Model Ysgol Rithwir Cymru.

Bydd pobl yn aml yn drysu rhwng y Model Ysgol Rithwir a dysgu ar-lein neu addysgu o bell. Fodd bynnag, nid dyna yw ei ffocws. Mae'r Model Ysgol Rithwir yn ddull sefydledig o gefnogi plant sydd wedi bod mewn gofal, h.y. wedi cael eu symud wrth eu teuluoedd, gyda'u cynnydd a'u profiadau addysgol. Yn dilyn rhaglen beilot y buddsoddwyd £1.2miliwn ynddi yng Nghymru, mae chwech awdurdod lleol yn gweithredu'r Model Ysgol Rithwir, ac mae gan bob awdurdod lleol Bennaeth Ysgol Rithwir a thîm gweithgar.

Mae Penaethiaid yr Ysgol Rithwir, a elwir yn VSH, yn gweithio'n uniongyrchol gyda phenaethiaid ysgolion prif ffrwd ac ysgolion ac amgylcheddau arbenigol i drafod profiadau, cynnydd a chanlyniadau eu disgyblion presennol sydd â phrofiad o ofal. Mae'r 16 awdurdod lleol arall yn gweithredu modelau gwahanol gan gynnwys Cydlynwyr Plant Sy'n Derbyn Gofal neu Ymgynghorwyr Gwella Ysgolion.
Mae'r prosiect hwn yn mynd i'r afael â'r bwlch hwn drwy gadarnhau tystiolaeth, cryfhau rhwydweithiau proffesiynol a datblygu digwyddiad ac adnodd sy'n ymwneud â chynnydd Model Ysgol Rithwir Cymru.

Mae’r prosiect hwn, a ariennir gan ESRC-IAA, yn canolbwyntio ar gryfhau gallu’r Brifysgol i gasglu, tystiolaethu a chyfathrebu effaith ymchwil. Bydd yn cefnogi datblygiad nifer o Astudiaethau Achos Effaith REF drwy adeiladu tystiolaeth strwythuredig, ymgysylltu â rhanddeiliaid a datblygu dulliau cynaliadwy o greu a gwerthuso effaith.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno ag amgylchedd deinamig a chydweithredol sy’n gweithredu ar groesffordd ymchwil, polisi ac ymarfer, gyda chyfleoedd i gyfrannu at allbynnau ymchwil o ansawdd uchel, ymgysylltu â rhanddeiliaid a datblygu cyllid yn y dyfodol.

 

 

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Lawrlwytho Llynfryn Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr