Uwch-swyddog Ymchwil - Cymrawd o’r Rhwydwaith Ymchwil Gardiofasgwlaidd Cenedlaethol (NCRN)
- Rhif y Swydd
- SU01671
- Math o Gytundeb
- Cyfnod Penodol
- Cyflog
- £46,735 i £55,755 y flwyddyn
- Patrwm Gweithio
- Llawn Amser
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 14 Medi 2026
- Dyddiad Cyfweliad
- 5 Hyd 2026
- Ymholiadau Anffurfiol
- Christopher George Christopher.George@Swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Ydych chi'n angerddol am fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd cardiofasgwlaidd trwy ymchwil ac arloesi?
Mae'r Rhwydwaith Ymchwil Gardiofasgwlaidd Cenedlaethol (NCRN) yn dwyn ynghyd academyddion, clinigwyr, gweithwyr iechyd proffesiynol, partneriaid diwydiant ac elusennau i gryfhau gallu ymchwil gardiofasgwlaidd a chyflymu darganfyddiadau sy'n gwella bywydau pobl yr effeithir arnynt gan glefyd y galon a chylchrediad y gwaed. Mae'r Rhwydwaith wedi'i gyd-ariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a’r British Heart Foundation a sefydliadau addysg uwch partner ledled Cymru.
Rydym wrth ein boddau yn cynnig Cymrodoriaeth NCRN, wedi'i lleoli ym Mhrifysgol Abertawe, sy’n cyd-fynd â thema strategol y Rhwydwaith o Fynd i'r Afael ag Achosion o Arhythmia a Chlefyd Myocardiaidd. Wedi'i chynllunio i roi'r hyblygrwydd i chi ddilyn eich cynlluniau ymchwil am hyd at ddwy flynedd, bydd y Gymrodoriaeth yn eich cefnogi i ddatblygu ymchwil arloesol, gydweithredol tuag at annibyniaeth ymchwil.
Mae hwn yn gyfle rhagorol i ddatblygu rhaglen ymchwil flaenllaw sy'n mynd i'r afael â blaenoriaethau cenedlaethol o ran datrys anghydraddoldebau ym maes clefyd y galon, gan elwa ar fframwaith datblygu gyrfa a mentora'r NCRN.
Fel Cymrawd o’r NCRN, bydd gennych enw da datblygol am ragoriaeth ymchwil ym mecanweithiau clefyd y galon, gyda ffocws ar wahaniaethau moleciwlaidd, cellog a meinwe sy'n cyfrannu at darddiadau, datblygiad a thriniaeth clefyd y galon mewn dynion a menywod. Drwy eich gwaith o gymhwyso dulliau arloesol i astudio meinweoedd y galon ddynol, byddwch wedi sefydlu cydweithrediadau i gefnogi cam nesaf eich ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe.
Byddwch yn amlinellu gweledigaeth glir ar gyfer meithrin partneriaethau amlddisgyblaethol a datblygu ceisiadau am gyllid allanol yn ystod y Gymrodoriaeth. Byddwch yn gyfathrebwr medrus, yn gallu disgrifio'ch gwaith i gynulleidfaoedd arbenigol ac anarbenigol, gan ddangos gwir werth eich ymchwil sy'n cael ei llywio gan chwilfrydedd, a'i photensial i lunio triniaeth clefyd y galon mewn dynion a menywod.
Byddwch yn ymatebol i lais y claf, gan lunio eich cynlluniau ymchwil i fynd i'r afael â meysydd o angen heb eu diwallu. Rhaid i chi ddangos yn gryf pam mai Prifysgol Abertawe yw'r lle gorau i ddilyn eich gweledigaeth ymchwil a sut mai'r NCRN yw’r elfen hanfodol sydd ei hangen i alluogi eich gwaith i wella bywydau pobl yng Nghymru a’r tu hwnt.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Rhannu Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr