Darlithydd - Peirianneg Electronig a Thrydanol (tymor penodol am 12 mis)
- Rhif y Swydd
- SU01668
- Math o Gytundeb
- Cyfnod Penodol
- Cyflog
- £39,906 i £46,049 y flwyddyn
- Patrwm Gweithio
- Llawn Amser
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
- Lleoliad
- Campws y Bae, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 31 Awst 2026
- Interview Dates
- 16 Medi 2026 - 17 Medi 2026
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Prof Karin Ennser K.Ennser@swansea.ac.uk
- Dr Yaonan Hou Yaonan.hou@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Bydd y Darlithydd yn gyfrifol am gydlynu nifer o fodiwlau israddedig mewn peirianneg electronig a thrydanol, gan gynnwys darlithio, dyluniadau labordy ymarferol, paratoi a marcio asesiadau parhaus ac arholiadau terfynol, a rheoli tudalennau modiwlau yn Amgylchedd Dysgu Rhithwir (VLE) Canvas. Gall y rôl hefyd gynnwys cefnogi cyflwyno modiwlau eraill, er enghraifft, gweithredu fel ail farciwr ar waith cwrs neu arholiadau a chefnogi labordai cyfrifiadurol neu sesiynau ymarferol. Disgwylir i'r sawl a benodir hefyd oruchwylio a marcio prosiectau ymchwil israddedig ar Lefelau 6 a 7 y FHEQ.
Rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau gan ymgeiswyr sydd â gallu profedig i addysgu electromagneteg a dylunio/cylchedau digidol, a/neu fodiwlau cysylltiedig eraill mewn peirianneg electronig.
Fel darlithydd yn yr Adran Peirianneg Electronig a Thrydanol, bydd deiliad y swydd yn aelod o'r Bwrdd Astudiaethau, a'r Bwrdd Arholwyr, a disgwylir iddo gyfrannu at weithgareddau'r Byrddau hyn.
Swydd am gyfnod penodol o 12 mis yw hon.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Rhannu Lawrlwytho Disgrifiad swydd Lawrlwytho Brochure Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr