Swyddog Ymchwil IGNITE ym maes Deallusrwydd Artiffisial Semantig
- Rhif y Swydd
- SU01660
- Math o Gytundeb
- Cyfnod Penodol
- Cyflog
- £39,355 i £45,413 y flwyddyn
- Patrwm Gweithio
- Llawn Amser
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
- Lleoliad
- Campws y Bae, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 6 Medi 2026
- Interview Dates
- 17 Medi 2026 - 18 Medi 2026
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Prof Arnold Beckmann a.beckmann@swansea.ac.uk
- Sarah Roberts S.A.Roberts@Swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Rydym yn chwilio am Swyddog Ymchwil ym maes Modelu Digidol Uwch i ymuno â grŵp ymchwil Deallusrwydd Artiffisial Semantig yr Athro Beckmann ym Mhrifysgol Abertawe am gyfnod penodol. Gan weithio yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg, byddwch chi'n cydweithio â chymunedau ymchwil bywiog ym maes modelu, data, Deallusrwydd Artiffisial a gweithgynhyrchu deunyddiau.
Mae'r rôl hollbwysig hon yn cefnogi IGNITE (Dur Gwyrdd Brodorol ar gyfer Arloesedd, Technoleg a Menter Sero Net), hyb ymchwil gweithgynhyrchu cynaliadwy gwerth £22m sy’n para am saith mlynedd, a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol ac a arweinir gan Brifysgol Abertawe mewn partneriaeth â sefydliadau academaidd blaenllaw yn y DU, prif gynhyrchwyr dur a mwy na 33 o weithgynhyrchwyr allweddol.
Byddwch yn ysgogi arloesedd er mwyn cyflawni'r weledigaeth 'Dur fel Gwasanaeth' drwy ddatblygu platfform digidol modiwlaidd sy'n canolbwyntio ar fodau dynol ac sy'n seiliedig ar Leoedd Data Diwydiannol. Bydd y platfform hwn yn galluogi llif di-dor ac aml-gyfeiriad o wybodaeth am ddeunyddiau sy'n amrywio dros dro ar draws y gadwyn gwerth dur, gan gyfrannu'n uniongyrchol at ddyfodol sero net a chynaliadwy ar gyfer sector dur y DU.
Mae cyfrifoldebau allweddol yn cynnwys datrys heriau o ran integreiddio data, modelu prosesau a phasbortau deunyddiau digidol drwy roi technolegau semantig a Deallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol ar waith. Byddwch chi'n cynnal cysylltiadau cryf â hyb IGNITE, yn cyhoeddi mewn cyfnodolion a adolygir ac yn cydweithio â phartneriaid academaidd a rhanddeiliaid diwydiannol eraill.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Rhannu Lawrlwytho Disgrifiad swydd Lawrlwytho FSE-Candidate-Brochure-(CY).pdf Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr