Cynorthwy-ydd Ymchwil - Trin Dŵr â Phlasma Anthermol (EPSRC IAA)
- Rhif y Swydd
- SU01659
- Math o Gytundeb
- Cyfnod Penodol
- Cyflog
- £34,132 i £38,249 y flwyddyn
- Patrwm Gweithio
- Llawn Amser
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
- Lleoliad
- Campws y Bae, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 11 Awst 2026
- Dyddiad Cyfweliad
- 19 Awst 2026
- Ymholiadau Anffurfiol
- Chedly Tizaoui c.tizaoui@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Nod y prosiect yw datblygu technoleg NTP wedi'i phatentu i drin ffrwd gwastraff cymhleth a soledau. Mae'r ymchwil yn rhan o raglen waith ehangach ym maes plasma anthermol ac mae'n adeiladu ar brosiectau blaenorol a ariannwyd gan yr EPSRC ac IAA. Bydd y canlyniadau'n cefnogi'n uniongyrchol fasnacheiddio technoleg, ymgysylltu â diwydiant a datblygu achos effaith ar gyfer y REF.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus rôl ganolog wrth gynllunio a chynnal arbrofion labordy, gweithredu ac optimeiddio'r adweithydd plasma, dadansoddi samplau dŵr a soledau, dehongli data arbrofol a pharatoi adroddiadau technegol a chyhoeddiadau gwyddonol. Bydd hefyd yn cyfrannu at helpu i droi canfyddiadau ymchwil yn atebion ymarferol i'r sector dŵr.
Dylai ymgeiswyr feddu ar radd PhD yn un o'r meysydd hyn neu ddisgyblaeth gysylltiedig, neu dylent fod yn agos at gwblhau un: Peirianneg Gemegol, Peirianneg Amgylcheddol neu Gemeg. Dylai fod ganddynt hefyd brofiad o ymchwil arbrofol mewn labordy. Byddai gwybodaeth am dechnolegau trin dŵr uwch, prosesau ocsideiddio uwch, technolegau plasma neu adfer amgylcheddol yn fantais.
Dyma gyfle ardderchog i gyfrannu at ddatblygu technoleg wedi'i phatentu sydd â photensial masnachol sylweddol, gan weithio ochr yn ochr ag ymchwilwyr blaenllaw i fynd i'r afael â rhai o'r heriau pwysicaf ym maes dulliau cynaliadwy o drin dŵr.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Rhannu Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr