Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU01642
Math o Gytundeb
Cyfnod Penodol
Cyflog
£39,355 i £45,413 y flwyddyn
Patrwm Gweithio
Llawn Amser
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
2 Awst 2026
Dyddiad Cyfweliad
25 Awst 2026
Ymholiadau Anffurfiol
Dr Christala Sophocleous c.sophocleous@swansea.ac.uk

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Bydd yr Uwch-swyddog Prosiect yn gweithio fel rhan o'r prosiect Meysydd o Ddiddordeb Ymchwil Strategol (ARI). Mae'r prosiect hwn wedi cael ei ariannu gan Rwydwaith Ymgysylltu â Pholisi'r Prifysgolion (Drwy Ymchwil ac Arloesi'r DU) a Chyfrif Cyflymu Effaith Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol Prifysgol Abertawe am 15 mis o fis Hydref 2026 er mwyn peilota'r defnydd o Feysydd o Ddiddordeb Ymchwil (ARI), ochr yn ochr â mecanweithiau ymgysylltiad academaidd-polisi eraill mewn llywodraeth leol. Mae Meysydd o Ddiddordeb Ymchwil yn helpu i gadarnhau angen llywodraeth leol o ran tystiolaeth ac ymgysylltu ag ymchwilwyr er mwyn llenwi bylchau tystiolaeth, sy'n gwella'r cyfleoedd i swyddogion llywodraeth leol ymgymryd â chyfleoedd dysgu a chydweithredu gan brifysgolion a gwella'r defnydd o dystiolaeth ac arbenigedd mewn polisi cyhoeddus. Mae'r prosiect peilot yn canolbwyntio ar ddatblygu proses Meysydd o Ddiddordeb Ymchwil gynaliadwy ar gyfer Cyngor Abertawe, gan weithio gydag ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe a'u partneriaid. 

Bydd yr Uwch-swyddog Prosiect yn cael ei gyflogi gan Brifysgol Abertawe yn y Swyddfa Ymchwil i Heriau Lleol (LCRO); bydd yn cael ei gynnal gan y Gwasanaeth Cynllunio a Pherfformiad Corfforaethol yng Nghyngor Abertawe; a bydd yn cwrdd yn rheolaidd â Clare Stainthorp, Cydlynydd Polisi UPEN (Meysydd o Ddiddordeb Ymchwil ledled y DU), at ddibenion cymorth ac adrodd.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr