Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU01641
Math o Gytundeb
Cyfnod Penodol
Cyflog
£39,355 i £45,413 y flwyddyn
Patrwm Gweithio
Llawn Amser
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
Lleoliad
Campws y Bae, Abertawe
Dyddiad Cau
3 Awst 2026
Interview Dates
17 Awst 2026 - 21 Awst 2026
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Bydd Rheolwr Hyfforddiant UK-SIFS yn arwain y gwaith o ddylunio, datblygu a chyflwyno rhaglen hyfforddiant doethurol o ansawdd uchel ar gyfer Canolfan Hyfforddiant Doethurol (CDT) yr EPSRC mewn Sgiliau Diwydiant Lled-ddargludyddion y DU ar gyfer y Dyfodol (UK-SIFS), menter gwerth £18.5 miliwn a gynhelir gan Brifysgol Abertawe mewn partneriaeth â Phrifysgol Leeds. Nod y rhaglen yw mynd i'r afael â phrinder sgiliau hanfodol ym maes lled-ddargludyddion trwy ddarparu hyfforddiant doethurol sy'n canolbwyntio ar y diwydiant.

Bydd gan ddeiliad y swydd gyfrifoldeb cyffredinol am weithredu rhaglen hyfforddiant technegol y CDT, gan sicrhau bod yr hyfforddiant yn drylwyr yn dechnegol, yn berthnasol i'r diwydiant ac wedi'i deilwra i anghenion myfyrwyr unigol. Mae cyfrifoldebau allweddol yn cynnwys datblygu deunyddiau hyfforddiant, creu cynlluniau hyfforddiant personol ar gyfer ymchwilwyr doethurol, monitro cynnydd myfyrwyr, a gwerthuso effeithiolrwydd hyfforddiant drwy adborth a metrigau perfformiad. 

Mae'r rôl yn gofyn am gydweithrediad agos â phartneriaid y diwydiant lled-ddargludyddion i nodi gofynion sy’n dod i’r amlwg o ran sgiliau a chyd-ddatblygu cynnwys hyfforddiant. Bydd y Rheolwr Hyfforddiant hefyd yn cydlynu cyfraniadau gan academyddion, arbenigwyr y diwydiant, hyfforddwyr proffesiynol, a rhanddeiliaid eraill, wrth hefyd archwilio cyfleoedd i ehangu darpariaeth hyfforddiant drwy ficrogymwysterau, prentisiaethau, rhaglenni i raddedigion a chynulleidfaoedd allanol. 

Dylai ymgeiswyr feddu ar ddoethuriaeth neu brofiad perthnasol cyfwerth, cefndir cryf mewn dylunio a chyflwyno rhaglenni hyfforddiant technegol, sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol, a phrofiad mewn amgylcheddau gwyddonol neu beirianneg. Byddai profiad o addysg uwch, lled-ddargludyddion neu amgylcheddau ystafell glân yn fanteisiol.

 

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Lawrlwytho Llynfryn Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr