Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU01639
Math o Gytundeb
Parhaol
Cyflog
£39,355 i £45,413 y flwyddyn
Patrwm Gweithio
Rhan Amser
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
29 Gorff 2026
Dyddiad Cyfweliad
10 Awst 2026
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Mae'r Adran Addysg ac Astudiaethau Plentyndod yn ceisio penodi Darlithydd mewn Addysg Gychwynnol Athrawon i gyfrannu at gyflwyno, datblygu a gwella'r rhaglen TAR Cynradd. Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â thîm AGA ymroddedig a chefnogi dysgu proffesiynol athrawon cynradd y dyfodol yng Nghymru.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cyfrannu at addysgu, asesu a chymorth i fyfyrwyr ar draws y rhaglen TAR Cynradd, gan weithio'n gydweithredol â chydweithwyr yn y Brifysgol ac ysgolion partner i gefnogi Addysg Gychwynnol Athrawon o ansawdd uchel. Bydd y rôl yn cynnwys helpu athrawon dan hyfforddiant i ddatblygu eu gwybodaeth am y cwricwlwm, eu dealltwriaeth addysgeg, eu hymarfer myfyriol a'u hyder fel athrawon newydd.

Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn ymgeiswyr sydd â phrofiad perthnasol o addysgu yn y cyfnod cynradd a dealltwriaeth gadarn o Gwricwlwm i Gymru, gan gynnwys cynnydd, addysgeg, asesu a chynllunio cwricwlwm.
Bydd ffocws penodol i'r rôl ar gefnogi darpariaeth mewn perthynas â Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau, gan gynnwys gwybodaeth bynciol, cynllunio cwricwlwm, dulliau addysgeg ac integreiddio'r Dyniaethau mewn ymarfer cynradd.

Cynigir y swydd fel penodiad parhaol 0.2 CALl ar y Llwybr Addysg, wedi'i lleoli ar Gampws Singleton.

Llwybr Gyrfa Academaidd

Mae'r swydd hon ar lwybr Addysg. Dyluniwyd cynllun y Llwybrau Gyrfa Academaidd i sicrhau bod cryfderau academaidd, boed mewn ymchwil, addysgu, profiad ehangach y myfyrwyr, arweinyddiaeth, neu arloesi ac ymgysylltu, i gyd yn cael eu cydnabod, eu datblygu, eu gwerthfawrogi a'u gwobrwyo mewn modd priodol. Mae gwybodaeth bellach ar gael yma.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd ceisiadau am y rôl hon ar ffurf cyflwyno CV a llythyr eglurhaol.

Anogir ymgeiswyr i ddefnyddio eu llythyr eglurhaol i ddangos sut mae eu profiad, eu gwybodaeth a'u sgiliau yn bodloni gofynion y rôl, yn enwedig mewn perthynas â phrofiad o addysgu yn y cyfnod cynradd, Cwricwlwm i Gymru, Addysg Gychwynnol Athrawon, cefnogi athrawon dan hyfforddiant a'r Dyniaethau yn y cwricwlwm cynradd.

Bydd angen darparu tystysgrif foddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd cyn y gellir cadarnhau dyddiad dechrau.

Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Lawrlwytho Llynfryn Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr