- Rhif y Swydd
- SU01634
- Math o Gytundeb
- Cyfnod Penodol
- Cyflog
- £34,132 i £38,249 y flwyddyn
- Patrwm Gweithio
- Llawn Amser
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Gwasanaethau Addysg
- Lleoliad
- Singleton neu Gampws y Bae, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 19 Gorff 2026
- Interview Dates
- 3 Awst 2026 - 7 Awst 2026
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- James Bennett D.J.Bennett@Swansea.ac.uk
- Frances Lloyd F.J.Lloyd@Swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Mae'r rôl cyfnod penodol chwe mis hon yn gyfle cyffrous i chwarae rhan allweddol wrth lunio a thyfu portffolio academaidd deinamig y Brifysgol. Mae hon yn swydd amrywiol a llawn effaith wrth wraidd datblygu portffolio, lle byddwch yn cyfrannu at greu, gwella a gweithredu rhaglenni a phartneriaethau arloesol sy'n cefnogi blaenoriaethau sefydliadol a llwyddiant myfyrwyr.
Fel Swyddog Datblygu Portffolio, byddwch yn ganolog i reoli'r broses o ddatblygu rhaglenni, gan sicrhau bod mentrau newydd yn cael eu cyflwyno'n effeithlon, i safon uchel, ac yn cyd-fynd ag amcanion strategol ac ariannol. Gan weithio ar draws cyfadrannau a gwasanaethau proffesiynol, byddwch yn cydweithio â staff academaidd, cydweithwyr uwch a phartneriaid allanol, gan ddylanwadu ar benderfyniadau a helpu i wireddu syniadau ar gyfer rhaglenni a phartneriaethau cydweithredol newydd.
Mae'r rôl yn cynnig cwmpas sylweddol i ymgysylltu'n strategol, o gyfrannu at ddatblygu polisïau addysg a chefnogi prosesau sicrhau a gwella ansawdd, i gynrychioli’r Gwasanaethau Addysg ar bwyllgorau a hybu gwelliannau mewn systemau a llif gwaith. Byddwch hefyd yn chwarae rhan allweddol wrth ddadansoddi a rheoli data rhaglenni i lywio penderfyniadau, cefnogi cynllunio, adrodd a gwelliant parhaus ar draws portffolio'r rhaglen academaidd.
Mae hwn yn gyfle ardderchog i rywun sy'n mwynhau gweithio'n gyflym mewn amgylchedd cydweithredol, gyda'r cyfle i adeiladu rhwydweithiau cryf a gwneud cyfraniad pendant at brofiad y myfyriwr. Byddwch yn cefnogi arloesedd wrth ddylunio rhaglenni, yn cryfhau partneriaethau (domestig a rhyngwladol), ac yn helpu i sicrhau bod y sefydliad yn parhau i ymateb i anghenion addysgol a marchnad sy'n newid.
Gyda phwyslais cryf ar gydweithio, creadigrwydd a gwelliant parhaus, mae'r rôl hon yn ddelfrydol ar gyfer gweithiwr proffesiynol brwdfrydig sy'n awyddus i ddatblygu ei arbenigedd wrth gyfrannu at sefydliad blaengar ac uchelgeisiol.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
I gyflwyno cais am y swydd hon, mae angen i chi ddarparu CV a llythyr eglurhaol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi sut rydych yn bodloni meini prawf y fanyleb person fel y’u nodir yn y disgrifiad swydd drwy amlygu eich cymwysterau, eich sgiliau a’ch profiad perthnasol mewn llythyr eglurhaol.
Rôl cyfnod penodol o chwe mis yw hon yn y lle cyntaf.
Rhannu Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Lawrlwytho Llynfryn Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr