- Rhif y Swydd
- SU01630
- Math o Gytundeb
- Cyfnod Penodol
- Cyflog
- £29,959 i £33,482 y flwyddyn
- Patrwm Gweithio
- Rhan Amser
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 15 Gorff 2026
- Interview Dates
- 20 Gorff 2026 - 24 Gorff 2026
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Michael Fowler M.S.Fowler@swansea.ac.uk
- Sherryl Bellfield S.L.Bellfield@Swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Mae prosiect REPAIR yn recriwtio ecolegydd sydd â phrofiad o adnabod rhywogaethau lleol er mwyn cynnal arolygon bioamrywiaeth (planhigion, pryfed, adar, ystlumod) yn Abertawe.
Mae 'REPAIR' yn brosiect trawsddisgyblaethol a ariennir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau y buddsoddwyd £3.2miliwn ynddo, sy'n archwilio atebion ar sail natur ar gyfer ymaddasu i'r hinsawdd drwy adfywio trefol. Mae'r prosiect yn archwilio dimensiynau diwylliannol, cymdeithasol ac ecolegol ôl-osod bioffilig (integreiddio 'natur' i adeiladau) trwy lygaid yr Adeilad Biophilic Living yn Abertawe (“BIOME”) – adeilad wedi’i ôl-osod yn gynhwysfawr, yn seiliedig ar natur, gyda thai cymdeithasol dros y llawr gwaelod ar gyfer mentrau cymdeithasol cynaliadwy a gweithgareddau eraill.
Mae'r prosiect yn archwilio sut mae atebion ar sail natur, megis toeau a waliau gwyrdd, gerddi glaw etc. yn helpu dinasoedd i addasu i newid yn yr hinsawdd. Nod y prosiect yw nodi heriau rheoleiddiol a rhai sy'n canolbwyntio ar bobl sy'n rhwystro mabwysiadu dylunio bioffilig yn eang ac yn darparu llwybrau atgynhyrchadwy sy'n seiliedig ar dystiolaeth i ôl-osod atebion sy'n seiliedig ar natur ar gyfer addasu i hinsawdd drefol.
Rydym yn chwilio am Dechnegydd Ymchwil rhan-amser (0.5CALl), sy'n angerddol am wneud gwahaniaeth i'r blaned, i gynnal arolygon bioamrywiaeth rheolaidd o fywyd gwyllt yn adeilad bioffilig newydd 'BIOME' yng nghanol Abertawe, ac o'i gwmpas. Bydd gan ddefnyddwyr yr adeilad fynediad at leoedd gwyrdd (gerddi ar ben toeon, planwyr, gardd lysiau gymunedol, tŷ gwydr aml-lawr). Nod y prosiect yw astudio sut mae bywyd gwyllt lleol yn ymateb i'r datblygiad cyffrous newydd hwn, ac mae'n cysylltu â choridorau gwyrdd a glas sydd eisoes yn bodoli ac isadeiledd o amgylch Abertawe.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus wybodaeth ymarferol dda a phrofiad o dirfesur ac adnabod rhywogaethau lleol o blanhigion, pryfed, adar ac ystlumod sy'n gyffredin o amgylch Abertawe. Bydd ganddo sgiliau rhyngbersonol a sgiliau trefnu rhagorol, bydd yn hyblyg ac yn gallu datrys problemau. Bydd yn gallu gweithio'n gydweithredol yn unol ag amserlennu penodol gyda chydweithwyr academaidd a phartneriaid eraill o ddiwydiant a llywodraeth leol er mwyn cynnal arolygon, adroddiadau a dadansoddiadau bioamrywiaeth tymhorol (gweler y disgrifiad swydd am ragor o fanylion).
Mae egwyddorion cynnull Tîm y prosiect wedi'u nodi yn https://www.liverpool.ac.uk/researcher/what-is-thrive/ ac mae'r rhain yn cael eu mabwysiadu a'u haddasu gan ein cyd-arweinwyr a'n cydweithwyr.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Rhannu Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Lawrlwytho Llynfryn Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr