- Rhif y Swydd
- SU01621
- Math o Gytundeb
- Parhaol
- Cyflog
- £25,107 i £26,093 y flwyddyn
- Patrwm Gweithio
- Llawn Amser
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Gwasanaethau Digidol
- Lleoliad
- Singleton neu Gampws y Bae, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 5 Gorff 2026
- Dyddiad Cyfweliad
- 10 Gorff 2026
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Shareena Hamzah Zarina.Hamzah@Swansea.ac.uk
- Carmen Rogers C.M.Rogers@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Bydd y Dadansoddwr Desg Wasanaeth TG Llinell Gyntaf yn gweithio yn y tîm Desg Wasanaeth, yr adran Gwasanaethau Digidol ehangach ac mewn partneriaeth ag adrannau Gwasanaeth Proffesiynol eraill i gyflwyno cymorth TG o safon i'n myfyrwyr a'n staff yn y swyddogaethau canlynol:
• Gwasanaeth Cwsmeriaid - darparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol i'r holl staff a myfyrwyr sy'n cysylltu â'r Gwasanaethau Digidol ar draws y ddau gampws, gan gynnwys mewn digwyddiadau a gweithgareddau busnes (gan gynnwys y canlynol ond heb fod yn gyfyngedig iddynt:) Clirio, Cofrestru, Cynadleddau a Diwrnodau Agored
• Rheoli Problemau a Bodloni Ceisiadau - dilyn y prosesau rheoli problemau a bodloni ceisiadau, yn unol ag amcanion y Ddesg Wasanaeth, i ddatrys cynifer o broblemau ac ymholiadau â phosib (gan ddefnyddio'r holl ffynonellau data priodol, megis problemau neu geisiadau hanesyddol, sylfeini gwybodaeth, profiad a gwybodaeth tîm y Ddesg Wasanaeth TG). Uwchgyfeirio'n briodol unrhyw broblemau neu geisiadau nad oes modd eu datrys neu eu bodloni o fewn cyfnod amser priodol.
• Gwella Gwasanaeth yn Barhaus - cyfrannu at ddatblygu prosesau pan na fydd dim yn bodoli, a chreu, adolygu a chynnal sylfeini gwybodaeth, i gynorthwyo gyda datrys digwyddiadau neu geisiadau'n barhaus.
Bydd y rôl hon yn addas i ymgeiswyr sy'n dwlu cyflwyno gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol a chanddynt ddiddordeb brwd neu ychydig o brofiad mewn TG.
Bydd yn rhaid i ddeiliad y swydd fod yn drefnus iawn, yn rhagweithiol, meddu ar lygad craff am fanylion a gallu datrys problemau.
Bydd y swydd yn cynnwys gweithio'n agos gyda staff TG o'r Gwasanaethau Digidol, felly bydd y gallu i feithrin perthnasoedd gweithio effeithiol a meithrin dealltwriaeth drylwyr o raglenni a rheoliadau academaidd yn hanfodol.
Mae deiliad y swydd yn gyfrifol am sicrhau ei fod yn gweithio'n unol â holl bolisïau a gweithdrefnau'r Brifysgol a'i fframweithiau llywodraethu a chyfansoddiadol, gan geisio arweiniad gan arweinwyr tîm/rheolwyr pan fo'n briodol.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Rhannu Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Lawrlwytho Llynfryn Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr