- Rhif y Swydd
- SU01581
- Math o Gytundeb
- Cyfnod Penodol
- Cyflog
- £34,132 i £38,249 y flwyddyn
- Patrwm Gweithio
- Llawn Amser
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 21 Meh 2026
- Dyddiad Cyfweliad
- 2 Gorff 2026
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Lewis Hotchkiss lewis.hotchkiss@chi.swan.ac.uk
- Emma Squires emma@chi.swan.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Prif bwrpas y rôl hon yw cefnogi'r gwaith o ddatblygu galluoedd Porth Data DPUK drwy hyrwyddo datblygiad a chymhwysiad data synthetig. Byddwch yn gweithio'n agos gyda'n partneriaid a'r tîm ehangach i adeiladu offer a phiblinellau data synthetig cadarn sy'n caniatáu ymchwil data diogel.
Prif ffocws y swydd hon fydd arddangos gwerth byd go iawn data synthetig mewn amgylchoedd ymchwil data diogel. Fel rhan o'r effaith ehangach hwn, byddwch yn cydweithio â phrosiect Grŵp Cymunedol UK Synthetic Data i helpu i wella llywodraethiant, safonau ac offer data synthetig. Byddwch hefyd yn datblygu astudiaethau achos dadansoddol sy'n amlygu defnyddioldeb gwahanol fathau o ddata synthetig, gan weithio gyda chydweithwyr i greu deunyddiau ac adnoddau gweithdai, a chynorthwyo i ysgrifennu a lledaenu adroddiadau a chanfyddiadau ymchwil i'r gymuned wyddonol ehangach.
Mae prif ddibenion y rôl yn cynnwys:
- Datblygu piblinellau: Dylunio, adeiladu a chynnal piblinellau a setiau data am ddata synthetig.
- Arddangos gwerth y byd go iawn: Arddangos cymhwysiad ymarferol data synthetig mewn TRE drwy astudiaethau achos sy'n amlygu defnyddioldeb data synthetig mewn achosion gwahanol.
- Dylanwadu ar safonau cenedlaethol: Gweithio gyda Grŵp Cymunedol UK Synthetic Data i helpu i lywodraethu fframweithiau, safonau arferion gorau a rhannu offer ar gyfer data synthetig.
- Cydweithio â chydweithwyr i greu deunyddiau gweithdai, adnoddau a chanllawiau hyfforddiant i alluogi defnydd ehangach o ddata synthetig ar draws y gymuned ymchwil data.
- Lledaenu Canfyddiadau: Cofnodi canfyddiadau ymchwil, creu adroddiadau technegol, ac arddangos canlyniadau i randdeiliaid a'r gymuned wyddonol ehangach.
- Gweithio'n agos gyda phartneriaid a phrosiectau ehangach i greu offer data synthetig, setiau data a phiblinellau cadarn sy'n sicrhau ymchwil diogel, cyfunol.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Rhannu Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr