Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU01480
Math o Gytundeb
Parhaol
Cyflog
£47,389 i £56,535 y flwyddyn
Patrwm Gweithio
Llawn Amser
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Gwasanaethau Digidol
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
9 Awst 2026
Dyddiad Cyfweliad
20 Awst 2026
Ymholiadau Anffurfiol
Dave Thomas d.a.thomas@swansea.ac.uk

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Rôl barhaol yw hon yn gweithio’n amser llawn.

Mae Prifysgol Abertawe'n chwilio am Arweinydd Sicrhau Ansawdd a Phrofiad Defnyddwyr profiadol ac uchel ei gymhelliant i ddarparu arweinyddiaeth strategol ar gyfer ansawdd, profi a dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr ar draws ein swyddogaeth Atebion Digidol.

Fel awdurdod y Brifysgol ar ansawdd a phrofiad defnyddwyr, byddwch yn pennu ac yn cynnal safonau sy'n sicrhau y caiff gwasanaethau digidol eu dylunio'n dda, eu bod yn hygyrch ac y cânt eu profi'n drylwyr a'u rhyddhau mewn ffordd ddibynadwy a reolir. Byddwch yn arwain tîm o weithwyr sicrhau ansawdd a phrofiad defnyddwyr proffesiynol, gan ddatblygu fframwaith ansawdd clir sy'n cefnogi'r gwaith o gyflawni ystwyth ar draws portffolio amrywiol o systemau a phlatfformau menter.

Gan weithio'n agos gyda phartneriaid busnes, rheolwyr prosiect a thimau technegol, byddwch yn helpu i lunio atebion sy'n diwallu anghenion defnyddwyr ac yn darparu gwerth i gymuned y Brifysgol. Mae hyn yn cynnwys cydbwyso galwadau rhwng newid busnes fel arfer, prosiectau a gweithgarwch piblinell, gan sicrhau bod egwyddorion ansawdd, hygyrchedd a phrofiad defnyddwyr yn cael eu rhoi ar waith yn gyson.

Mae'r rôl yn cyfuno arweinyddiaeth strategol â dylanwad uniongyrchol. Byddwch yn creu arferion ansawdd a phrofiad defnyddwyr ac yn eu gwella'n barhaus, yn blaenoriaethu'r ôl-groniad yn effeithiol ac yn sicrhau bod timau cyflawni yn gweithio yn unol â phrosesau ystwyth a rheoli rhyddhau y cytunwyd arnynt.  Bydd gennych rôl allweddol hefyd wrth ddatblygu cymuned ymarfer gref ym maes profiad defnyddwyr ar draws y sefydliad, gan hyrwyddo arferion a rennir a datblygiad proffesiynol.

Dyma gyfle ardderchog i ddylanwadu ar y broses o wreiddio ansawdd a phrofiad defnyddwyr mewn sefydliad cymhleth, sy'n cael ei ysgogi gan ei genhadaeth, ac i gael effaith go iawn ar y gwasanaethau digidol sy'n cefnogi myfyrwyr, staff a phartneriaid Prifysgol Abertawe.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr