- Rhif y Swydd
- SU01400
- Math o Gytundeb
- Contract cyfyngedig
- Cyflog
- £34,132 i £38,249 y flwyddyn
- Patrwm Gweithio
- Rhan Amser
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 15 Chwef 2026
- Dyddiad Cyfweliad
- 24 Chwef 2026
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Ella Rabaiotti e.c.rabaiotti@swansea.ac.uk
- Steven Garner s.j.garner@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Mae Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Abertawe eisiau penodi Cymrawd Addysgu am gyfnod penodol yn yr Adran Troseddeg, Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol dros absenoldeb mamolaeth. Bydd y rôl yn cynnwys addysgu ar ein rhaglen troseddeg israddedig, gan gynnwys y pwnc cyfiawnder ieuenctid. Felly mae gwybodaeth ac arbenigedd ym maes cyfiawnder ieuenctid, drwy addysgu, gwaith ymchwil a/neu ymarfer, yn ofyniad hanfodol.
Bydd y rôl hon yn cynnwys ystod o gyfrifoldebau cydlynu, gweinyddol, a bugeiliol, ac ymrwymiad i fentrau recriwtio myfyrwyr. Bydd cyfrifoldebau allweddol eraill y rôl hon yn cynnwys addysgu a marcio ar fodiwlau a ddyrennir yn yr Adran Troseddeg, Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol. Bydd disgwyl i'r tiwtor fod yn hyblyg i gyflwyno addysgu ar draws yr adran yn ôl yr angen.
Rydym yn chwilio am chwaraewr tîm ysbrydoledig sy'n gallu cyfrannu at uchelgeisiau'r Brifysgol a'r Ysgol i fod ar y blaen o ran dysgu wedi'i gyfoethogi'n ddigidol, gan adeiladu ar hanes yr Ysgol o brofiad rhagorol i fyfyrwyr.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Rhannu Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Lawrlwytho FHSS-Llyfryn yr Ymgeisydd(CY).pdf Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr