- Rhif y Swydd
- SU01387
- Math o Gytundeb
- Contract anghyfyngedig
- Cyflog
- £29,959 i £33,482 y flwyddyn
- Patrwm Gweithio
- Llawn Amser
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Ystadau a Gwasanaethau Campws
- Lleoliad
- Singleton neu Gampws y Bae, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 22 Chwef 2026
- Dyddiad Cyfweliad
- 4 Maw 2026
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Melissa Ferreira Melissa.ferreira@swansea.ac.uk
- Michelle Dene Michelle.dene@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sy'n gallu cynnig safon uchel gyson o wasanaeth a chyflwyniad i reolwyr a pherchnogion digwyddiadau ar draws y Brifysgol ac i gleientiaid y tu hwnt i'r Brifysgol sy'n dymuno cynnal digwyddiadau yn y Brifysgol. Cynorthwyo'r Brifysgol yn ei hymgais i ddarparu digwyddiadau o safon, diogel, proffesiynol a chyson drwy weithredu swyddogaeth cefnogi digwyddiadau sy'n darparu adnodd cadarn, cynhwysfawr a hawdd ei gyrraedd i berchnogion a threfnwyr digwyddiadau.
1. Bod yn gyswllt cyntaf ar gyfer rheolwyr a pherchnogion digwyddiadau, yn fewnol ac yn allanol, gan gynnal a chyflwyno digwyddiadau ar gampysau Prifysgol Abertawe a lleoliadau cysylltiedig.
2. Darparu cymorth cyson, proffesiynol a chydlynu digwyddiadau ar y cyd â Cholegau ac adrannau ar draws y Brifysgol.
3. Cydlynu a goruchwylio'n uniongyrchol ddigwyddiadau o'r cam ymholi i'r casgliad. Bydd hyn yn cynnwys cyfathrebu â threfnwyr digwyddiad i drafod pob agwedd ar eu harcheb gyda'r bwriad o nodi'n gywir ofynion eu digwyddiad a llunio contract. Monitro cynnydd y contract a sicrhau bod taliad ac amserlenni gweithgareddau'n cael eu bodloni. Darparu dyletswydd reoli ar y safle ar gyfer digwyddiadau pan fydd angen.
4. Cyfathrebu'n effeithiol â'r holl dimau gweithredol a chyflenwyr mewnol ac allanol gan gynnwys Chwaraeon, Gwasanaethau Arlwyo, Gwasanaethau Campws, Gwasanaethau Preswyl, Gwasanaethau'r Cyfryngau a Gwasanaethau Ystadau i sicrhau bod digwyddiadau'n cael eu cynnal yn hwylus. Monitro lefelau ac ansawdd gwasanaeth a rhoi adborth pan fydd angen.
5. Bod yn rheolwr cyfrif ar gyfer portffolio o gleientiaid mewnol (Colegau, UGPau, Prosiectau) a chynorthwyo gyda meithrin perthnasoedd gyda phob cyfrif i ddarparu cymorth digwyddiad wedi'i deilwra a chyson fel y bo angen.
6. Bod yn rheolwr cyfrif ar gyfer portffolio o gleientiaid allanol a chleientiaid masnachol a chynorthwyo wrth ddenu a chynnal cyfleoedd busnes masnachol o safon.
7. Cefnogi'r Rheolwr Gwasanaethau Digwyddiadau a Chymorth wrth weithredu a dosbarthu cyngor, arweiniad, polisïau ac offer ymarferol ar draws y Brifysgol, a rhoi cymorth uniongyrchol i berchnogion/reolwyr digwyddiad wrth ddefnyddio arweiniad o'r fath.
8. Hyrwyddo, poblogi a chynnal systemau a phrosesau i gofnodi a chyfleu gwybodaeth am ddigwyddiadau'r Brifysgol a digwyddiadau a gynhelir ar ei champysau.
9. Hyrwyddo'r swyddogaeth Gwasanaethau Digwyddiadau ar draws y Brifysgol i annog colegau ac adrannau i ddatblygu a chynnal digwyddiadau o safon, proffil uchel sy'n fanteisiol yn strategol ar gampysau'r Brifysgol.
10. Rhoi arweiniad a pholisi diogelwch digwyddiadau a rheoli risg y Brifysgol ar waith drwy weithio'n agos gyda'r Cydlynydd Digwyddiadau.
11. Ymgymryd â dyletswyddau clercol a gweinyddol uniongyrchol o ran digwyddiadau a gweithredu'r Gwasanaethau Cymorth Digwyddiadau.
12. Bod yn gyfrifol am gyllidebau a gweinyddiaeth ariannol digwyddiad penodol, gan gynnwys anfonebu, cymodi, bodloni targedau a bennwyd a rhagolygon.
Cynnal a phoblogi gwybodaeth am ddigwyddiadau a systemau archebu a sicrhau bod yr holl wybodaeth yn gywir, yn gynhwysfawr ac yn amserol.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Rhannu Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Lawrlwytho PS-Llyfryn yr Ymgeisydd-(CY).pdf Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr