- Rhif y Swydd
- SU01377
- Math o Gytundeb
- Contract anghyfyngedig
- Cyflog
- £39,355 i £45,413 y flwyddyn
- Patrwm Gweithio
- Llawn Amser
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Marchnata, Recriwtio a Rhyngwladol
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 1 Chwef 2026
- Dyddiad Cyfweliad
- 9 Chwef 2026
- Ymholiadau Anffurfiol
- Helen Wright h.j.wright@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Bydd deiliad rôl y Rheolwr Derbyn Myfyrwyr (Gweithrediadau) yn arweinydd cryf a fydd yn rheolwr llinell i dîm o staff Derbyn Myfyrwyr. Bydd deiliad y swydd yn arwain ar reoli gweithrediadau dyddiol rheoli ymholiadau, cydlynu cyfweliadau a bydd yn gyswllt â’r Gwasanaethau Digidol yn ymwneud â'r holl systemau Derbyn Myfyrwyr.
Bydd deiliad y swydd yn hyrwyddwr systemau yn yr adran Derbyn Myfyrwyr ar gyfer systemau a ddefnyddir gan y Gwasanaeth, gan sicrhau gweithrediadau effeithiol, effeithlon a chydymffurfiol mewn perthynas â derbyn myfyrwyr - gan weithredu fel y prif gyswllt rhwng y tîm Derbyn Myfyrwyr a’r Gwasanaethau Digidol.
Bydd deiliad y swydd yn rheoli gwelliant parhaus systemau Derbyn Myfyrwyr drwy nodi a chasglu gofynion o ran y system. Bydd yn gwneud penderfyniadau ar newidiadau i'r system a gweithio ar y cyd â'r Gwasanaethau Digidol i weithredu gwelliannau, gan sicrhau bod systemau'n parhau i fod yn addas at y diben ac yn cyd-fynd â llif gwaith derbyn myfyrwyr.
Bydd deiliad y swydd hefyd yn cynnig hyfforddiant i gydweithwyr y tîm derbyn myfyrwyr ac ar draws y Brifysgol ar sut i weithredu prosesau derbyn myfyrwyr ar systemau presennol.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Rhannu Lawrlwytho Disgrifiad swydd.docx Lawrlwytho PS-Candidate-Brochure-(CY).pdf Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr