Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU01375
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£39,355 i £45,413 y flwyddyn
Patrwm Gweithio
Llawn Amser
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
28 Ion 2026
Dyddiad Cyfweliad
11 Chwef 2026
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Mae gennym ddwy swydd cyfnod penodol tan fis Mawrth 2028 yn gweithio amser llawn.

Mae grŵp Gwyddor Data Poblogaethau Prifysgol Abertawe (https://popdatasci.swan.ac.uk/cy/) yn cefnogi ymchwil sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang i ddatblygu offer a methodolegau dadansoddol arloesol i fynd i'r afael â'r heriau ymchwil iechyd mwyaf dybryd. Mae'r grŵp Gwyddor Data Poblogaethau yn gartref i ymchwilwyr a gwyddonwyr data sy'n canolbwyntio ar amrywiaeth o brosiectau a rhaglenni â'r nod o wella gwasanaethau a bywydau pobl drwy ymchwil ym maes gwyddor data poblogaethau. Mae'r tîm amlddisgyblaethol hwn yn gweithio mewn amgylchedd ystwyth a phrysur ac mae’n ymrwymedig i ddangos gwerth gwyddor data i amrywiaeth o gynulleidfaoedd technegol ac annhechnegol.

Mae’r grŵp yn defnyddio ffynonellau data cysylltiedig, dienw cyfoethog ar raddfa'r boblogaeth ac ar lefel unigol gan Fanc Data SAIL (Cyswllt Gwybodaeth Ddienw Ddiogel) (www.saildatabank.co.uk) i ateb cwestiynau pwysig ar lefel y boblogaeth sy'n llywio polisi ac yn gwerthuso rhaglenni a phrosiectau cenedlaethol. Rydym am benodi Swyddog Ymchwil a Gwyddonydd Data i ymuno â'n tîm a fydd yn gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid, sefydliadau a grwpiau amrywiol. Mae ein tîm yn cydweithio'n rheolaidd fel rhan o lawer o brosiectau a rhaglenni ymchwil a ariennir yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Gwahoddir ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â sgiliau a phrofiad mewn dadansoddi data a gesglir yn rheolaidd (mewn iechyd neu ofal cymdeithasol, yn ddelfrydol) a chefndir yn unrhyw un o'r meysydd canlynol: epidemioleg, ystadegau, ymchwil weithredol neu wybodeg berthnasol i weithio mewn ymchwil a gwyddor data. 

Bydd y Swyddog Ymchwil a Gwyddonydd Data yn rhan o Ganolfan Tystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru (https://researchwalesevidencecentre.co.uk/), cydweithrediad amlddisgyblaethol rhwng ymchwilwyr, llunwyr polisi ac arweinwyr gwasanaeth ar draws Llywodraeth Cymru, y byd academaidd, iechyd y cyhoedd, iechyd a gofal cymdeithasol a sefydliadau yn y trydydd sector yng Nghymru. Bydd y Ganolfan yn darparu tystiolaeth ar flaenoriaethau pwysicaf Cymru ar draws maes iechyd a gofal cymdeithasol a'i phrif nod yw sicrhau bod polisïau a gwasanaethau sydd ar waith yn berthnasol, yn effeithiol ac yn arwain at welliannau i boblogaeth Cymru a chymdeithas decach.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr